Mae Cyngor Môn wedi croesawu cynlluniau i sefydlu tasglu newydd yn cynnwys amrywiaeth o randdeiliaid er mwyn sicrhau dyfodol Porthladd Caergybi.
Mae ail borthladd prysuraf y DU wedi bod ar gau i longau a cherbydau ers 7 Rhagfyr o ganlyniad i ddifrod a achoswyd i'r isadeiledd angori yn dilyn Storm Darragh.
Arweinir y tasglu gan ysgrifennydd ar gyfer trafnidiaeth, Ken Skates, ochr yn ochr ag ysgrifennydd yr economi, Rebecca Evans.
Gan gyhoeddi'r newyddion am y tasglu newydd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Skates y byddai'r grŵp yn cydweithio â Gweinidogion Trafnidiaeth Iwerddon, Llywodraeth y DU a rhanddeiliaid allweddol eraill yn niwydiant porthladdoedd a llongau Cymru ac Iwerddon er mwyn sicrhau bod y porthladd yn bodloni anghenion y ddwy wlad ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard, arweinydd y cyngor: "Rydym wedi gweld dros yr wythnosau diwethaf sut y bu cau'r porthladd yn annisgwyl dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd – un o gyfnodau prysuraf y flwyddyn – achosi aflonyddwch i deithwyr a symudiadau nwyddau."
"Ni ellir gorbwysleisio'r effaith ar fusnesau lleol sy'n dibynnu ar y porthladd ac rydym yn croesawu'r cyfle i drafod cynlluniau ar gyfer gwytnwch yn y dyfodol a sut y gallwn amddiffyn pwysigrwydd strategol Porthladd Caergybi."
"Bydd y tasglu newydd hwn yn dod â rhanddeiliaid allweddol o amgylch y bwrdd ac edrychwn ymlaen at gydweithio â phartneriaid a chwarae ein rhan yn y trafodaethau hanfodol hyn."
Cyhoeddodd awdurdod Porthladd Caergybi, Stena Line, yn ddiweddar bod dydd Iau 16 Ionawr yn parhau fel y dyddiad cyraeddadwy ar gyfer gallu agor Terfynfa 5 ym Mhorthladd Caergybi ac ail ddechrau llongau yn hwylio o Ddulyn i Gaergybi, yn amodol ar y tywydd.
Mae'r cyngor hefyd wed lansio ei arolwg effaith y porthladd ei hun.
Dywedodd prif weithredwr, Dylan J. Williams: "Rydym eisoes yn cydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru er mwyn deall yr effaith y mae cau Porthladd Caergybi yn ddirybudd wedi'i gael ar fusnesau."
"Er mai Stena Line sy'n berchen ar y porthladd ac yn ei weithredu, rydym angen sicrhau bod yr effeithiau y mae cau'r busnes, yn enwedig o ran cyflogaeth, yn cael eu deall yn llawn."
"I'r perwyl hwnnw, rydym yn lansio arolwg ar-lein heddiw a fydd, gobeithio, yn ein galluogi ni i gasglu'r dystiolaeth sydd ei hangen arnom er mwyn denu'r gefnogaeth ariannol angenrheidiol ar gyfer y busnesau sydd wedi eu heffeithio."
"Yn nhermau'r tasglu newydd, rydym fel Cyngor yn ffodus o gael perthynas weithio clos gyda Stena Line, yn sgil ein partneriaeth bresennol er mwyn cyflawni prosiect Porthladd Rhydd Môn."
"Bydd mewnbwn gan Lywodraethau Cymru, Iwerddon a'r DU, wrth gwrs, hefyd yn allweddol i sicrhau dyfodol Porthladd Caergybi yn ogystal â'r swyddi lleol hynny sy'n dibynnu ar ei weld yn gweithredu'n barhaol."