Mae Cyngor Gwynedd yn nodi diwrnod rhyngwladol Ymgyrch Rhuban Gwyn drwy annog ymddygiad positif i ddileu trais yn erbyn merched a genethod.
Mae'n nodi dechrau wythnos fyd-eang o ymwybyddiaeth o'r ymgyrch i annog ac addysgu dynion a bechgyn i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben.
Mae baner arbennig yn cael ei chwifio ym mhencadlys y cyngor yng Nghaernarfon.
Eleni, mae ymgyrch Rhuban Gwyn yn annog dynion i wneud eu hunain yn atebol i ferched ac i'w gilydd er mwyn sicrhau newid ymddygiad positif i drawsnewid diwylliannau niweidiol.
Dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme, aelod cabinet sy'n gyfrifol am faes adnoddau dynol: "Mae gan Gyngor Gwynedd enw da fel lle da i weithio gydag awyrgylch gyfeillgar a chefnogol."
"Mae meddu ar yr achrediad hwn yn dangos ein bod yn cymryd mater trais yn erbyn menywod o ddifri ac yn defnyddio ein safle i ddylanwadu a gwneud gwahaniaeth yn fewnol ac yn allanol."
Mae'r Cyngor Gwynedd hefyd yn sefydliad achrededig Rhuban Gwyn
Am fwy o wybodaeth am yr ymgyrch Rhuban Gwyn, ewch i'w gwefan White Ribbon UK.
Os oes angen unrhyw gefnogaeth ynglŷn a camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol, mae'r llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gael ar 0800 80 10 800 gyda chyngor pellach ar wefan Llywodraeth Cymru.