Cyhuddo dyn o fod â dryll ffug yn ei feddiant

Tuesday, 17 September 2024 12:49

By Ystafell Newyddion MônFM

Geograph (Eric Jones)

Mae dyn 28 oed wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o fod â dryll ffug yn ei feddiant yng Nghaernarfon.

Cafodd pump o bobl eu harestio yn dilyn digwyddiad trefn gyhoeddus yn ardal Lon y Bryn nos Sul.

Mae Mark Griffiths, 28 oed, o Lon Helen, Caernarfon, wedi cael ei gyhuddo o fod â dryll tanio yn ei feddiant gyda'r bwriad o achosi trais.

Yn llys ynadon Caernarfon, cafodd Griffiths ei gadw yn y ddalfa tan dydd Llun 21 Hydref, pan fydd yn ymddangos cyn barnwr yn Llys y Goron yn y dref.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Bydd presenoldeb heddlu cynyddol yn yr ardal (Lon y Bryn) at ddibenion tawelu meddwl."

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Ar y Lôn

    5:00pm - 7:00pm

    Y gerddoriaeth orau ar MônFM / The best music on MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'