Mae trefniadau wedi eu cadarnhau ar gyfer Ffair Borth eleni.
Bydd y ffair stryd draddodiadol yn cael ei chynnal ym Mhorthaethwy ar ddydd Iau 24 Hydref.
Ffordd ar gau
Bydd gorchymyn cau ffyrdd ar gyfer Ffordd Telford, Stryd y Bont, Ffordd y Ffair a Stryd Y Paced yn weithredol rhwng 2yp ar ddydd Mercher 23 Hydref a 7yb ar ddydd Gwener 25 Gwener.
Bydd gwyriadau yn weithredol a bydd arwyddion yn cael eu codi ar gyfer y rhain.
Parcio
Bydd meysydd parcio Ffordd y Ffair a Llys Menai yn cael eu defnyddio gan y ffair o hanner nos ar fore Mawrth 23 Hydref tan 7yb ar ddydd Gwener 25 Hydref.
Gellir parcio ym meysydd parcio Bulkley a Choed Cyrnol fydd ar agor fel yr arfer.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Bydd safle bws Rhyd Menai ar Ffordd Caergybi ar ddefnydd i bob gwasanaeth ar ddydd Mercher 23 Hydref a dydd Iau 24 Hydref.
Dim parcio llwytho / dadlwytho
Bydd cyfyngiadau Dim parcio Dim Llwytho / Dadlwytho yn weithredol yng Nghil Bedlam, y Stryd Fawr a rhannau o Ffordd Cadnant o 23 Hydref tan 7yb ar 25 Hydref.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ynys Môn: "Mae’r ffair stryd draddodiadol hon wedi bod yn cael ei mwynhau ers cenedlaethau. Dewch i fwynhau’r reidiau, y stondinau ac awyrgylch y ffair."
"Oherwydd bod y ffair yn cael ei chynnal ar y stryd, mae’n anorfod y bydd yn amharu rhywfaint ar y dref. Mae’r trefniadau isod wedi cael eu sefydlu er mwyn lleihau i’r eithaf unrhyw aflonyddwch a sicrhau y gall pawb fwynhau profiad diogel."