Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (CDFfc) wedi cyhoeddi cynigion i ad-drefnu etholaethau Senedd Cymru.
Mae Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn cyfarwyddo’r Comisiwn i wneud argymhellion ar gyfer 16 o etholaethau i ddisodli’r 40 etholaeth a 5 rhanbarth presennol.
Bydd yr etholaethau newydd hyn yn dod i rym yn awtomatig yn etholiad y Senedd 2026, a bydd 6 Aelod o’r Senedd yn cael eu hethol o bob un, gan ddefnyddio’r dull D’Hondt a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer rhestrau rhanbarthol y Senedd.
Bu’n rhaid i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru greu 16 etholaeth drwy baru 32 etholaeth seneddol y DU yng Nghymru, gan sicrhau bod pob etholaeth yn ffinio â’r un y mae wedi’i pharu â hi.
Yr 16 etholaeth a gynigir gan y CDFfc yn cynnwys Bangor Aberconwy Ynys Mon ac Dwyfor Meirionnydd, Maldwyn a Glyndŵr.
Byddai'r ddwy ardal yn cymryd lle'r tair etholaeth sef Arfon, Dwyfor Meirionydd ac Ynys Môn a'r ddau ranbarth - Gogledd Cymru (Arfon ac Ynys Môn) a Chanolbarth a Gorllewin Cymru (Dwyfor Meirionydd).
Mae’r comisiwn o’r farn mai dim ond os oes modd teithio drwyddi draw heb orfod gadael yr etholaeth y dylid meddwl am etholaethau fel rhai “cyffiniol”.
Er enghraifft, nid oedd y comisiwn yn ystyried Ynys Môn a Dwyfor Meirionnydd yn gynnig hyfyw gan nad oes modd teithio o un i'r llall ar y ffordd heb orfod mynd i mewn i Fangor Aberconwy.
Bu’r CDFfc hefyd yn ystyried cysylltiadau lleol, megis hanes ardal, y Gymraeg, ac ystyriaethau economaidd-gymdeithasol mewn ymgais i gynnig etholaethau sy’n teimlo mor naturiol â phosibl i bobl ledled Cymru.
Fodd bynnag, nid yw'r comisiwn yn ystyried effaith ei gynigion ar ganlyniadau etholiadau yn y dyfodol.
Ar ôl cyhoeddi ei gynigion cychwynnol, mae'r CDFfc hefyd wedi agor ymgynghoriad 4 wythnos i geisio barn pobl ledled Cymru.
Mae’r comisiwn yn awyddus i ddeall a oes cefnogaeth gyhoeddus i’r cynigion hyn neu a yw pobl yn teimlo y dylai eu hetholaeth seneddol gael ei pharu ag etholaeth wahanol yn lle hynny.
Mae’r comisiwn hefyd yn edrych ymlaen at glywed barn y cyhoedd ar yr enwau etholaethau arfaethedig.
Nod CDFfC oedd rhoi enwau i’r etholaethau a oedd yn adlewyrchu’r ardaloedd y maent yn eu cwmpasu, a lle nad oedd enw cyffredin i’r ardal, i ddefnyddio enwau’r etholaethau seneddol San Steffan.
Fodd bynnag, mae'r comisiwn wedi datgan mai pobl leol sydd yn y sefyllfa orau i roi cyngor ar yr enwau ar gyfer eu hardal ac mae'r Comisiwn yn parhau i fod yn agored iawn i ddiwygio'r enwau arfaethedig yn ogystal â'r parau arfaethedig.
Wrth wneud sylwadau ar gyhoeddi’r cynigion cychwynnol, dywedodd Prif Weithredwr CDFfc, Shereen Williams.
“Yn etholiad 2026, bydd ein senedd genedlaethol yn cael ei hethol gan ddefnyddio system hollol newydd, gydag etholaethau cwbl newydd."
“Mae’r Comisiwn yn hyderus bod ein cynigion cychwynnol yn gam cyntaf da iawn i greu 16 o etholaethau Senedd newydd Cymru, ond gwyddom o brofiad bod y prosesau hyn bob amser yn cael eu cryfhau pan fyddwn yn clywed gan y cyhoedd."
“Felly rydym yn annog pawb yn gryf i rannu eu barn gyda ni, boed yn cefnogi neu’n gwrthwynebu’r cynigion, fel y gallwn fynd ymlaen i gryfhau’r map ymhellach cyn yr etholiad nesaf.”
Daw’r cyfnod ymgynghori cychwynnol i ben ar 30 Medi, a bydd y Comisiwn yn cyhoeddi ei adroddiad ar y cynigion diwygiedig ym mis Rhagfyr.
Bydd cyfnod ymgynghori arall o 4 wythnos yn rhedeg i Ionawr 2025 yn dilyn. Mae’r Comisiwn yn disgwyl cyhoeddi ei benderfyniadau terfynol ym mis Mawrth 2025.