Cwymp mawr mewn swyddi niwclear

Monday, 16 September 2024 18:24

By Ystafell Newyddion MônFM

Geograph (Ian Capper)

Mae Ynys Môn wedi colli mwy na hanner ei gweithlu niwclear yn y 15 mlynedd diwethaf, yn ôl adroddiad newydd.

Wythnos diwethaf, rhyddhaodd y Gymdeithas Diwydiant Niwclear (GDN) ei fap swyddi ar gyfer 2024.

Mae’r map yn dangos bod 321 o bobl yn gweithio yn y diwydiant ym Môn ar hyn o bryd, sy’n is na 750 yn 2010, cyn datgomisiynu'r hen atomfa yn Wylfa.

Ar draws Cymru gyfan, mae'r sector yn cyflogi 827 o bobl, o gymharu â 1,346 nôl yn 2014. Ar y llaw arall, mae swyddi yn y diwydiant niwclear yn Lloegr wedi cynyddu 65%.

Mae Ynys Môn hefyd wedi gweld y gostyngiad mwyaf (57%) mewn cyflogaeth niwclear o unrhyw etholaeth arall yn y DU.

Wrth ymateb i'r ffigyrau, dywed Cyngor Ynys Môn ei fod yn rhannu'r pryderon am ddirywiad y diwydiant yng Nghymru, ynghanol ansicrwydd parhaus ynghylch gorsaf ynni niwclear newydd bosibl yn Wylfa.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Gary Pritchard: "Mae’r cwymp sylweddol yn nifer y swyddi niwclear ar yr Ynys wedi’i waethygu gan sawl ymdrech aflwyddiannus i ddarparu prosiect newydd ar safle Wylfa."

"Yn ei anterth, roedd yr hen orsaf bŵer Magnox ar safle Wylfa yn cyflogi oddeutu 1,000 o bobl, gyda’r boblogaeth leol, yn enwedig yng ngogledd Ynys Môn, yn ddibynnol ar yr orsaf, cyn dechrau ei datgomisiynu yn 2015."

"Mae’r ffaith bod cyflogwyr eraill wedi cau eu drysau, fel Rehau ac Octel yn Amlwch, hefyd wedi cyfrannu at y dirywiad economaidd yng ngogledd Ynys Môn yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf."

"Mae diffyg swyddi yn dilyn hynny wedi gorfodi pobl o oed gwaith, llawer ohonynt yn siaradwyr Cymraeg, i symud o’r ardal gyda’u teuluoedd – gan adael poblogaeth sy’n heneiddio ac economi sydd mewn trafferthion."

 

Mae’r adroddiad diweddar gan y cyngor ar yr effaith economaidd-gymdeithasol yng Ngogledd Ynys Môn wedi cadarnhau bod yr ardal wedi profi dirywiad hir yn ystod y ddau ddegawd diwethaf.

500 o swyddi yn diflannu gyda chau ffatri Octel yn Amlwch yn 2004, yn dilyn gan datgomisiynu Wylfa yn 2015 a chau ffatri blastig Rehau yn Amlwch, lle collwyd cant o swyddi.

Mae'r cyngor sir wedi bod yn cefnogi galwadau am datblygiad niwclear newydd yn Wylfa i "adfer blynyddoedd o ddirywiad", gan greu swyddi ac ynni glân.

Ond yn ôl eu prif weithredwr, ni all y cyngor na’r sector cyhoeddus adfywio gogledd Ynys Môn ar eu pen eu hunain.

Dwyeddod Dylan J Williams: "Mae denu buddsoddiad newydd gan y sector preifat yn hanfodol, ac mae datblygiad niwclear newydd yn Wylfa yn gyfle i sicrhau newid tymor hir sylweddol."

"Rydym angen sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd datblygiad yn cael ei greu ar safle Wylfa. Bydd hyn yn ein galluogi i baratoi’n effeithiol, dylanwadu a rhoi sicrwydd i’n cymunedau."

"Mae’n bwysig bod unrhyw ddatblygiad posibl yn cydnabod ac yn diogelu’r rhinweddau hynny sy’n gwneud yr Ynys, a’i chymunedau, mor unigryw, gan gynnwys yr iaith Gymraeg a’n diwydiant."

Ychwanegodd y Cynghorydd Pritchard: "Mae map swyddi’r GDN...yn atgyfnerthu barn y cyngor bod sicrhau datblygiad niwclear newydd yn Wylfa, un ai ar raddfa GW neu SMR, yn hanfodol er mwyn sicrhau llesiant a ffyniant tymor hir cymunedau ein Hynys, yn enwedig y rheiny yng ngogledd Môn."

"Mae cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth y DU ac amserlenni pendant ar gyfer creu datblygiad yn Wylfa yn hollbwysig er mwyn sicrhau cyfleoedd gwaith lleol."

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'