Mae wyth o bobl ifanc wedi cael eu harestio mewn ymgais i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghricieth.
Cafodd yr heddlu yn gael pwerau gwasgaru ychwanegol yn dilyn difrod troseddol yng nghanol y dref nos Wener diwethaf. Arestiwyd tri yn dilyn y digwyddiad.
Arestiwyd tri arall ar ddydd Sadwrn a dydd Sul yn dilyn ymddygiad pellach. Cafodd y tri eu rhyddhau ar amodau gwaith ymyrraeth ieuenctid.
Cafodd un bachgen eu arestio eto am dorri amodau'r fechnïaeth. Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac ymddangosodd yn Llys Ieuenctid Caernarfon ar ddydd Llun a bydd yn ymddangos yno eto ar ddyddiad yn y dyfodol.
Ar yr un diwrnod, arestiwyd person ifanc arall ar amheuaeth o drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus a dwyn o siopau.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ar amodau gwaith ymyrraeth ieuenctid a bydd yn rhaid iddo gadw at gyrffyw.
Arestiodd yr heddlu ddyn ifanc hefyd ar amheuaeth o ddwyn o siopau a difrodi potiau planhigion ar y sgwâr yng Nghricieth. Mae wedi ei gyhuddo o'r troseddau a bydd yn ymddangos yn y llys ieuenctid ar ddyddiad yn y dyfodol.
Bydd swyddogion yn cwrdd â thrigolion lleol i drafod pryderon yn Llyfrgell Cricieth brynhawn Mercher.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Iwan Jones: "Deallwn yr effaith y mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ar y gymuned yng Nghricieth."
"Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r holl bwerau sydd ar gael i atal ymddygiad annerbyniol."
""Rwyf yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus trigolion y dref ac yn annog unrhyw un sy'n dymuno mynd i'r llyfrgell yng Nghricieth ar ddydd Mercher 2 Hydref rhwng 4.40pm a 6pm i siarad â'r heddlu ac i fynegi eu barn am ymestyn y gorchymyn gwarchod man cyhoeddus."
Os oes gennych chi unrhyw bryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich ardal leol, ewch i wefan Heddlu Gogledd Cymru neu ffoniwch 101.