
Mae nifer o baneli morglawdd byw wedi'u gosod ym Mhorth Amlwch i helpu i wella'r ecoleg forol.
Mae'r paneli - a ddarparwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) - wedi cael eu gosod ar strwythur concrid y porth.
Maent yn dynwared y nodweddion sydd i'w gweld ar draethlinau sy'n cefnogi bywyd gwyllt a bioamrywiaeth.
Yn ôl Cyngor Ynys Môn, maent yn darparu lloches i rywogaethau rhag creaduriaid eraill a thywydd garw.
Bydd hyn yn ei dro yn helpu i roi hwb i'r ecosystem naturiol.
Roedd y prosiect yn bosib gyda diolch i nawdd a dderbyniwyd drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin gan Lywodraeth y DU.
Mae 34 o baneli, sy'n gorchuddio 5.2m x 1.8m o'r morglawdd, wedi cael eu gosod yn y Porth, maent yn cynnwys:
- 8 panel pyllau glan môr (i ddenu rhywogaethau nad ydym fel arfer yn eu gweld ar forgloddiau cyffredin, megis algâu, tiwnigogion, cynffonnau sbonc, a nifer o lygaid meheryn ifanc)
- 8 panel agennog (i helpu cregyn crib drwy ddarparu lloches iddynt)
- 8 panel crwybrog (i ddarparu lloches i wichiaid a lle i wichiaid moch ddodwy eu wyau)
- 8 panel tyllog y mae modd i bysgod nofio drwyddynt (i dyfu algâu – gwyrdd yn gyntaf, yna gwymon – sy'n tyfu'n uwch nag ar forgloddiau cyffredin)
- 2 panel rheoli
Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts, deilydd portffolio newid hinsawdd: "Mae'r brosiect yma yn un gwych gyda phob math o fanteision, yn cynnwys gwella bioamrywiaeth, gwella ansawdd y dŵr a chreu cynefinoedd hanfodol."
"Yn wahanol i forgloddiau traddodiadol, mae morgloddiau byw yn cefnogi mwy o greaduriaid y môr. Mae'r paneli wedi cael eu dylunio i hidlo gronynnau o'r dŵr, er mwyn gwella ansawdd y dŵr. Maent hefyd yn lleihau egni'r tonnau, sy'n helpu i leihau erydu arfordirol."
Bydd fyfyrwyr gradd Meistr o Brifysgol Aberystwyth yn monitro'r morglawdd drwy gynnal arolygon bioamrywiaeth rheolaidd.
Ychwanegodd Ceri Beynon-Davies, uwch gynghorydd CNC ar lesiant morol ac arfordirol: "Roeddem yn falch iawn o gael cefnogi Cyngor Sir Ynys Môn i osod paneli'r waliau môr byw ym Mhorthladd Amlwch."
"Trwy ddarparu cynefin ar gyfer organebau morol amrywiol, fel brennig, gwichiaid moch, topiau môr ac algâu, gall y paneli helpu i wella bioamrywiaeth strwythurau yn y porthladd."
Ychwanegodd, "Rydym yn gobeithio bod y paneli yn rhoi ysbrydoliaeth i bobl hefyd, gan ein hatgoffa y gallwn ni i gyd weithredu, mewn ffordd fawr neu fach, i amddiffyn ein moroedd a'r manteision y maen nhw'n eu darparu i ni."