Clinig yn gwella bywydau cleifion ag wlserau ar y goes

Wednesday, 18 September 2024 11:17

By Ystafell Newyddion MônFM

BIPBC

Mae cleifion yn Môn a gogledd Gwynedd sydd ag wlserau ar y goes sy'n anodd eu gwella yn elwa o driniaeth a chymorth wedi'i thargedu'n fwy penodol, diolch i wasanaeth arbenigol newydd.

Mae’r rhan fwyaf o wlserau ar y goes yn gwella’n gyflym ar ôl cael y driniaeth gywir, ond mae nifer fach yn anodd iawn i'w gwella, a gall hyn effeithio ar iechyd a lles claf mewn sawl ffordd.

Ers lansio’r gwasanaeth ym mis Mawrth 2023, mae gwasanaeth Wlserau Coes a Chlwyfau Cymhleth Arfon a Môn wedi cefnogi nifer o gleifion sydd wedi byw gyda wlserau gwythiennol ar eu coesau ers blynyddoedd lawer, gan roi eu hannibyniaeth yn ôl iddyn nhw a chynyddu ansawdd eu bywyd.

Roedd Simon Williams (81) o Fenllech yn un o’r cleifion cyntaf i gael ei gyfeirio at y gwasanaeth. Mae wedi canmol y tîm am y gofal y mae wedi’i dderbyn.

Dywedodd Simon: “Fe wnes i syrthio yn yr ardd ychydig cyn COVID ac fe ddatblygodd wlserau ar fy nghoesau o ganlyniad i’r toriadau. Wrth lwc, mae fy ngwraig yn gyn-nyrs ac roedd hi'n gallu eu trin am beth amser, ond yn anffodus, doedden nhw ddim yn gwella."

“Ro'n i'n ei chael hi'n anodd am gyfnod. Soniodd fy meddygfa am y gwasanaeth newydd a oedd wedi cael ei sefydlu. Cefais fy nghyfeirio ato, ac o hynny ymlaen, newidiodd popeth."

“Cefais fy asesu, cefais gynllun triniaeth a therapi cywasgu a wnaeth wahaniaeth enfawr. Gallwn weld fy mod yn mynd i’r cyfeiriad cywir yn syth – bedwar mis yn ddiweddarach gwellodd fy wlserau. Roedd yn wyrthiol!”

"Erbyn hyn, dw i'n gwisgo sanau cywasgu sy'n atal y briwiau rhag dod yn ôl a dw i’n teimlo cymaint yn well. Dw i'n cael cefnogaeth dda iawn gan y tîm ac maen nhw bob amser yno pan fydd angen help arna i.”

Mae’r tîm yn cynnwys tair nyrs arbenigol ar y goes a chlwyfau cymhleth, Sarah Thomas, Lucy McIldowie a Clare McMullan, yn ogystal â Sioned Davies sy’n gynorthwyydd gofal iechyd. Maen nhw wedi derbyn mwy na 160 o gyfeiriadau ers sefydlu’r gwasanaeth.

Dywedodd Clare McMullan: “Trwy ddefnyddio’r dulliau diagnosteg drylwyr ddiweddaraf ynghyd â chynnig gofal cyfannol, rydyn ni’n  gallu dechrau cleifion ar y cynllun triniaeth cywir mewn modd amserol."

“Trwy ddechrau therapi cywasgu ar y cyswllt cyntaf, a chynnal hylendid clwyfau trwyadl yn rheolaidd i sicrhau'r amgylchedd iachau clwyfau gorau posibl, rydyn ni wedi gallu lleihau amseroedd gwella yn sylweddol."

“Rydyn ni’n angerddol am ofal parhaus gan fod clefyd gwythiennol yn gyflwr cronig. Rydyn ni’n rhoi cymorth ac addysg barhaus i sicrhau bod cleifion yn y sefyllfa orau i atal wlserau ar eu coesau a chyflyrau gwythiennol cysylltiedig eraill rhag digwydd eto."

“Rydyn ni’n hyderus y byddwn ni’n cael effaith gadarnhaol barhaus ar gleifion yn ein hardal drwy wella wlserau gyda gofal arbenigol."

“Rydyn ni bob amser yn hapus i weld cleifion fel Simon sydd wedi gwneud mor dda ac wedi gwella – mae’n wych gweld sut mae ein gwasanaeth wedi helpu i wella eu bywyd a’u hiechyd meddwl.”

Ychwanegodd Lucy McIldowie, nyrs arweiniol y gwasanaeth: “Mae’r cyfuniad o ofal arbenigol a pharhaus wedi bod o gymorth mawr i lawer o gleifion, fel Simon, sydd wedi cael wlserau ar eu coesau ers blynyddoedd lawer, i wella o fewn ychydig wythnosau i ychydig fisoedd o dan ofal ein gwasanaethau."

“Mae’r sefydliad cenedlaethol dros ragoriaeth mewn iechyd a gofal yn cydnabod budd gwasanaethau fel ein un ni o ran gwella cyfraddau gwella wlserau ar y goes."

"Mae 70% yn gwella o fewn chwe mis mewn clinigau wlserau ar y goes arbenigol o’i gymharu â dim ond 45% mewn lleoliadau cymunedol eraill."

“Mae’r tîm bob amser yn hapus i weld cleifion fel Simon sydd wedi gwneud mor dda ac wedi gwella – mae’n wych gweld sut mae ein gwasanaeth wedi helpu i wella eu bywyd a’u hiechyd meddwl.”

Ers ei sefydlu, mae’r gwasanaeth wedi cael ei groesawu gan feddygon teulu lleol yn yr ardal y mae’n ei gwasanaethu.

Dywedodd Dr Dyfrig ap Dafydd o Feddygfa Coed y Glyn yn Llangefni: "Mae nyrsys practis meddyg teulu yn brofiadol iawn o ran rheoli clwyfau a briwiau cychwynnol ond ar gyfer wlserau cronig neu barhaus mae wedi bod yn hynod ddefnyddiol gallu darparu triniaethau mwy arbenigol tebyg i “ysbyty” yn y gymuned, yn nes at adref."

"Rydym wedi gweld canlyniadau trawiadol iawn ac yn gobeithio gweld cynlluniau o'r math hwn yn parhau ac yn ehangu.”

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Ar y Lôn

    5:00pm - 7:00pm

    Y gerddoriaeth orau ar MônFM / The best music on MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'