Chwilio'n parahau am lanc yn y Fenai

Monday, 23 September 2024 17:07

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae'r chwilio'n parhau o amgylch Afon Menai ar ôl i fachgen yn ei arddegau fynd i'r dŵr.

Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn cribo'r ardal drwy gydol y penwythnos ers derbyn adroddiad toc cyn 9.45yb bore Gwener diwethaf.

Ond er gwaethaf nifer asiantaethau'n chwilio'n helaeth, nid ydy'r llanc wedi'i ddarganfod.

Nid yw'r bachgen wedi cael ei enwi'n ffurfiol eto, ond roedd yn gwisgo jîns a hwdi porffor ar y pryd.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, bydd dronau arbenigol yn parhau chwilio drwy gydol yr wythnos, hefo help swyddogion chwilio arbenigol ac asiantaethau partner pan fydd amodau'r llanw a'r tywydd yn caniatáu.

Dywedodd y Prif Arolygydd Stephen Pawson o Heddlu Golgedd Cymru: "Mae fy meddyliau hefo teulu'r bachgen yn y cyfnod anodd hwn."

"Mae ein swyddogion yn parhau rhoi help iddyn nhw ac yn eu diweddaru nhw'n rheolaidd ar ein hymchwiliad ni."

"'Da ni'n diolch i'r gymuned am eu help parhaus ac yn parhau annog aelodau'r cyhoedd roi gwybod i ni ar unwaith."

"Dwi'n deall bod aelodau'r gymuned yn awyddus helpu hefo'r chwilio. Buaswn i'n annog gwirfoddolwyr ystyried peryglon yr arfordir yn ofalus a newid mewn amodau'r tywydd yn ystod y chwilio. Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr nad oes unrhyw un yn cael eu niweidio."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'