Chwilio am fusnesau i gynnig cyfleoedd i’r anabl

Tuesday, 24 September 2024 15:57

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Gwynedd

Mae Cyngor Gwynedd yn chwilio am fusnesau lleol fyddai’n gallu cynnig cyfleodd i oedolion sydd ag anableddau dysgu.

Mae bron i 100 o unigolion ar gynllun cyfleoedd gwaith ar draws y sir ac yn cael hyfforddiant a phrofiad yn y byd gwaith go iawn.

Bwriad y cynllun – sy’n cael ei weithredu trwy tîm anabledd dysgu yng ngwasanaethau cymdeithasol y cyngor – yw cefnogi oedolion sydd ag anableddau neu anawsterau eraill i gael mynediad i gyfleodd cyflogaeth.

Drwy ennill sgiliau newydd a magu hyder, y gobaith yw eu bod yn gallu symud ymlaen i fod mewn gwaith cyflogedig hir dymor a chyfrannu i’r gymuned, ac yn wir mae 37 bellach wedi cymryd y cam hwn. 

Un o’r unigolion sy’n gweithio’n rheolaidd diolch i’r cynllun yw Llŷr yn gerddor talentog ac yn gweithio i gwmni o’r enw Bwthyn Sonic yn canu’r piano i wahanol gynulleidfaoedd yng Ngwynedd a Môn.

Ac mae Iwan yn gwneud gwaith cynnal a chadw i Gyngor Tref Caernarfon, ac yn gyfrifol am gadw adnoddau Parc Coed Helen yn lân a thaclus.

Meddai Iwan: “Dwi’n cadw’r lle yn lan a twt. Dwi’n checio os ydi’r parc yn lan, yn llnau ac yn agor y toiled ac yn llnau’r changig rooms. Dwi’n licio’r gwaith.”

Ar hyn o bryd, mae gan y gwasanaeth gytundebau gyda Cyngor Tref Caernarfon, archfarchnadoedd, mudiadau a busnesau fel Williams Homes yn Y Bala, Siop Llanaelhaearn a gwesty Premier Inn ym Mhorthmadog.

Eglurodd Richard ‘Jonjo’ Jones, gweithiwr cefnogi cyfleodd gwaith o fewn gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Gwynedd: "Dwi wrth fy modd yn gweld y bobl dwi’n gweithio gyda nhw yn cael gwaith a chyflog, fel arall mi fyddan nhw mewn gwasanaeth dydd ac o bosib ddim yn cyrraedd eu llawn botensial o fedru ysgwyddo cyfrifoldeb a gallu cyfrannu’n llawn i gymdeithas."

"Mae ymchwil gynhaliwyd gan Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd yn dangos fod dau o bob tri o oedolion gyda anabledd dysgu yn dweud eu bod eisiau gwaith cyflogedig. Ond ar hyn o bryd, yn anffodus, mae llai na 5% yng ngogledd Cymru sydd yn ennill cyflog."

"Drwy weithio efo’n gilydd, gallwn i gyd fod yn rhan o’r jig-so i gael mwy o bobl i fewn i’r byd gwaith."

“Mae llawer o waith yn mynd ymlaen yn y cefndir i gael y lleoliad gwaith cywir i’r unigolyn, rydan ni’n trafod efo nhw ac yn siarad efo’u teuluoedd er mwyn eu paratoi ar gyfer y gweithle."

“Rydan ni hefyd yn cefnogi’r busnes neu sefydliad er mwyn gwneud yn siŵr fod pawb yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen ac mae hyfforddiant hefyd ar gael. Mae’n bosib trefnu profiad gwaith i ddechrau cyn symud ymlaen at gyflogaeth llawn."

“Os oes yna fusnes neu sefydliad allan yna fyddai’n hoffi bod yn rhan o’r cynllun – o fusnes bach teuluol i gwmni neu elusen mawr – byddwn wrth ein bodd i gael siarad gyda chi a gweld beth sy’n bosib."

“Drwy fod yn rhan o’r cynllun gallwch newid byd unigolyn a’u teulu. Mae cael gweithio ochr-yn-ochr a phobl eraill ac ennill cyflog yn rhoi balchder a hunan hyder anfesuradwy. Mae pawb sy’n rhan o’r broses ar eu hennill ac yn dysgu o’r profiad.”

Am fwy o wybodaeth ac am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â’r tîm anabledd dysgu y cyngor drwy CyfleoeddGwaith@gwynedd.llyw.cymru

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'