Mae'r heddlu'n pryderu am ddiogelwch dyn 33 oed sydd ar goll.
Cafodd Rowan ei gweld ddiwethaf yn ardal Bangor nos Sul.
Lansiwyd chwiliadau gan asiantaethau ar y cyd ddydd Llun a arweiniodd wedyn at ganfod ei gar ger goleudy Ynys Lawd.
Mae’r chwilio gan wylwyr y glannau a'r heddlu i ddod o hyd iddo yn parhau.
Dywedodd Rhingyll Maggie Marshall o Heddlu Gogledd Cymru: "Rwy'n apelio ar unrhyw un a oedd yn ardal Ynys Lawd nos Sul neu ddydd Llun, ac a allai fod wedi gweld Rowan neu Vauxhaull Astra gwyrddlas i gysylltu â ni."
"Mae’r chwilio yn parhau heddiw, ac mae swyddogion yn cadw mewn cysylltiad â'i deulu."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am leoliad Rowan, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101, neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 48441.