Mae chwe dyn wedi cael eu cyhuddo o ddwyn gwartheg o fferm ger Llanerchymedd.
Daw yn dilyn ymchwiliad hir gan swyddogion troseddau cefn gwlad ar ôl i 14 o wartheg gael eu dwyn o sied, yn ystod gyda'r nos ar 10 Rhagfyr 2022.
Cyflawnwyd sawl gwarant mewn cysylltiad â'r digwyddiad, gan gynnwys dau leoliad amaethyddol yn ardal Stoke on Trent ym mis Ebrill 2023.
Yn ystod y chwilio, daethpwyd o hyd i wartheg, tractor a beic pedwar olwyn wedi'u dwyn.
Mae pedwar dyn o Ogledd Cymru, un o Stoke ac un arall o Swydd Warwick wedi cael eu cyhuddo o gynllwynio cyflawni byrgleriaeth hefo'r bwriad o ddwyn.
Mae'r rhai sydd wedi'u cyhuddo'n cynnwys:
- Liam Kettleborough, 29, o Church Lawford, Rugby, Swydd Warwick
- Daniel Jones, 30, o Llannerchymedd, Ynys Môn
- Jack John Billington, 22, o Yr Orsedd, Wrecsam
- Michael Anthony McLeod, 55, o Higher Kinnerton, Sir y Fflint
- Stanley Mark Jones, 26, o Pentre Brychdyn, Wrecsam
- Clifford Kelvin Smith, 64, o Stoke
Byddan nhw'n ymddangos ger bron Llys Ynadon Caernarfon ar 3 Ebrill.
Cafodd yr ymchwiliad help gan uned ddronau Heddlu Gogledd Cymru, swyddogion o Heddlu Swydd Gaer a'r Tîm Dwyn mewn Adeiladu ac Amaethyddiaeth Cenedlaethol.