Cau bont droed ym Mhwllheli wedi tân bwriadol

Tuesday, 29 October 2024 22:57

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Gwynedd

Mae pont droed ym Mhwllheli wedi ei chau yn dilyn tân bwriadol.

Cafodd rhan sylweddol o bompren rhwng Lôn Cob Bach a Phont Solomon ym Mhwllheli ei losgi rhwng 8yh a 10yh nos Fercher diwethaf.

Mae'r tân wedi costio rhwng £5,000 a £10,000 o ddifrod ac mae'r heddlu wedi apelio ar dystion i ddod ymlaen.

Mae'r Cyngor Gwynedd wedi cau y llwybr dros dro oherwydd pryderon am ddiogelwch y strwythur.

Meddai Gerwyn Jones, pennaeth cynorthwyol adran amgylchedd y cyngor: "Mae’r bont droed yma ym Mhwllheli yn hynod boblogaidd gyda thrigolion lleol ac yn cynnig cyfle i fwynhau amgylchedd a byd natur tafliad carreg o ganol y dref."

"Er fod yna fandaliaeth wedi ei brofi i’r bont dros y blynyddoedd, yn dilyn gwaith atgyweirio diweddar, mae yna ddefnydd da wedi ei weld ohoni."

"Mae’n bryderus iawn felly fod y strwythur wedi gorfod ei gau dros-dro ar ôl y tân yma, ac mae’n loes calon gweld y difrod sydd wedi ei achosi."

"Yn ogystal â’r anhwylustod fod rhaid cau y bont dros dro, mi fydd yna gostau sylweddol i’r Cyngor er mwyn gallu atgyweirio’r strwythur – mewn cyfnod lle mae cyllid yn brin, mae hyn yn gost di-angen. Mae’n siomedig bod ymddygiad lleiafrif bach iawn yn difetha mwynhad pobl o’r bompren."

"Rydym yn erfyn ar y rhai sy’n gyfrifol i barchu eiddo cyhoeddus ac i feddwl am effaith eu hymddygiad ar y gymuned leol, ac i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y mater i gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru."

Dwyeddod llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "'Da ni'n apelio ar i unrhyw un a oedd yn yr ardal yn ystod yr amser hwnnw a welodd unrhyw beth amheus i gysylltu â'r heddlu."

"Ar ben hyn, 'da ni'n apelio ar unrhyw un a oedd yn teithio yn yr ardal gyda thystiolaeth ar gamera cerbyd i gysylltu â'n swyddogion."

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y llosgi bwriadol, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu defnyddiwch y sgwrs we fyw, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 24000905845.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'