Cartref newydd i fusnesau ar draeth Newry

Thursday, 26 September 2024 11:38

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Môn

Mae pedwar ciosg o'r 1930au wedi ailagor yn swyddogol ar draeth Newry yng Nghaergybi, gan ddarparu lleoliad ar gyfer busnesau lleol.

Mae’r gwaith adnewyddu wedi’i ariannu drwy raglen adfywio’r dref gan Lywodraeth y DU, fel rhan o ymdrechion ehangach i ddatblygu asedau arfordirol y dref a chreu ardal ddeniadol ar hyd y promenâd.

Bydd pedwar busnes wedi'u lleoli yn y ciosgau - Cuffed-In Coffee, Island Bakes, Môn Ices a’r Cwt Creu - yn cynnig cynnyrch ac anrhegion lleol o ansawdd uchel.

Dywedodd Krisitan Cuffin, perchennog Cuffed-In Coffee: "Rydym yn falch iawn o gael ciosg ac yn ddiolchgar o fod yn rhan o'r prosiect gwych hwn, sydd o fudd i bobl a busnesau lleol a chymuned Caergybi yn gyffredinol."

"Rydym wedi cyflogi aelod ychwanegol o staff er mwyn cyfarfod y cynnydd yn y galw gan gwsmeriaid, felly mae wedi caniatáu i ni dyfu’r busnes yn barod."

Agorwyd y ciosgs yn swyddogol ar 23 Medi gan dau gynghorydd lleol, Glyn Haynes a John Chorlton,a'r prif weithredwr Cyngor Môn, Dylan Williams.

Meddai’r Cynghorydd Glyn Haynes, aelod lleol Parc a'r Mynydd, a chadeirydd y cyngor sir: "Rwy'n hynod o falch bod y cyfleusterau newydd yma bellach wedi agor ger Traeth Newry."

"Mae'n lle poblogaidd gydag ymwelwyr a thrigolion lleol - gyda'r pedwar ciosg newydd y gobaith yw rhoi hwb i'r ardal fel cyrchfan, gwella mynediad at gyfleusterau hamdden yn ogystal â gwneud y gorau o'r hyn sydd gan Gaergybi i'w gynnig."

Ychwanegodd y Cynghorydd Tref, John Chorlton: "Mae'r ciosgs yn rhan o'n treftadaeth yn lleol, ac rydyn ni’n falch o'u gweld nhw’n chwarae rhan eto wrth gefnogi busnesau lleol a gwella profiad ymwelwyr."

"Heb os byddant yn cyfrannu at yr ymdrechion i hyrwyddo economi Caergybi ac yn gwella llefydd cyhoeddus ar lan y dŵr. Trwy greu ardal lle gall pobl ddod i fwynhau paned a danteithion eraill, gobeithio y bydd y ciosgs yn dod yn boblogaidd wrth i bobl fynd am dro."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'