Carcharu stelciwr am aflonyddu ar gyn-bartneriaid

Tuesday, 29 October 2024 14:47

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae stelciwr wedi’i garcharu am aflonyddu a bygwth dau o’i gyn-bartneriaid.

Pleidiodd Gruffydd Williams o Efailnewydd yn euog i stelcian a bygwth datgelu lluniau rhywiol preifat heb ganiatâd.

Cafodd ei garcharu am ddwy flynedd a thri mis.

Daeth y ddynes gyntaf â'r berthynas hefo Williams i ben ym mis Ionawr 2022. Fodd bynnag, dechreuodd ei ffonio bob dydd gan ddefnyddio rhif ffôn wedi'i guddio ac fe wnaeth gyflwyno cwyn ffug yn ei herbyn yn ei gwaith.

Gyrrodd Williams (44) ei gar heibio i gartref a gweithle'r dioddefwr yn rheolaidd, ar rai adegau yn gyrru y tu ôl iddi ac yn fflachio ei brif oleuadau arni.

Fe wnaeth hi osod camerâu CCC yn ei chartref er diogelwch, a thra roedd hi ffwrdd hefo ffrindiau, fe ddaliodd Williams yn ei thŷ. Cafodd alwad yn ddiweddarach i'w hysbysu bod ei ffenestri wedi cael eu difrodi.

Riportiodd hi ei weithrediadau i'r heddlu ym mis Hydref 2022 ac fe gafodd ei arestio ym mis Tachwedd 2022 hefo amodau i beidio â chysylltu hefo'r dioddefwr. Fodd bynnag, ym mis Mawrth 2023, fe wnaeth Williams dorri'r amodau hyn drwy wneud galwadau ffôn i'r dioddefwr eto.

Roedd yr ail ddioddefwr mewn perthynas hefo Williams a daeth hon i ben yn 2017. Fodd bynnag, yn 2022, cysylltodd Williams hefo hi a bygwth cyhoeddi lluniau personol ohoni.

Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener, cafodd Williams ei wahardd rhag cysylltu hefo'r ddau ddioddefwr am 15 mlynedd o dan orchymyn atal.

Dywedodd y Rhingyll Bryn Pritchard o Heddlu Gogledd Cymru: "Dwi'n cymeradwyo'r dioddefwyr am eu dewrder wrth riportio ymddygiad obsesiynol Williams."

"Mae stelcian yn drosedd ddifrifol a all waethygu'n gyflym ac achosi dioddefwr adael yn ofni perygl. Dwi'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn galluogi'r dioddefwyr symud ymlaen, gan wybod nad ydy o bellach yn fygythiad i'w diogelwch nhw."

"'Da ni'n cymryd adroddiadau o stelcian o ddifrif a byddwn yn eich helpu drwy gydol unrhyw ymchwiliad. Os 'da chi'n profi stelcian, peidiwch â dioddef ar eich pen eich hun, riportiwch o."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'