Mae dyn a dorrodd mewn i gartref dynes oedrannus tra roedd hi'n cysgu ac ymosod arni wedi cael ei garcharu.
Pleidodd Carl Reed yn euog i ymosod ar ddynes 72 oed yn ei thŷ yng Nghaergybi ym mis Mawrth 2023.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi disgrifio ei weithredoedd fel rhai anfesuradwy.
Toc wedi 9yh ar 24 Mawrth llynedd, aeth Reed (52) i gartref cartref cyn nyrs a oedd yn byw ar ei phen ei hun.
Cafodd y ddynes ei deffro gan sŵn yn ei thŷ ac yna teimlodd fod rhywun yn ei hystafell wely. Trodd a gweld Reed ar ei gwrcwd yn ei hwyneb hi. Yn sydyn fe wnaeth ei dal i lawr ar ei gwely gan ddefnyddio ei freichiau, gan ofyn am arian ac yn bygwth ei "thrywanu" hi.
Parhaodd Reed hefo'i ymosodiad, gan ddyrnu'r ddynes yn ei hwyneb, ei phen a'i gwefus gan achosi i'w cheg waedu.
Ceisiodd y ddynes egluro nad oedd ganddi arian, ond parhaodd Reed ymosod arni gan fynnu ei bod yn trosglwyddo'r arian.
Pan aeth Reed i ystafell wely arall yn y tŷ, rhedodd y dioddefwr yn gyflym allan o'i thŷ i'r stryd gan weiddi am help.
Sylwodd bod drws cymydog ychydig yn agored a rhedodd i'w cartref lle dywedodd wrthyn nhw beth oedd wedi digwydd a ffonio'r heddlu.
Gwnaeth ymchwiliadau fforensig ganfod DNA Reed ar eitemau o amgylch cartref y dioddefwr, gan gynnwys trosol du a dwy faneg dafladwy las a oedd hefyd yn cynnwys gwaed y dioddefwr ei hun.
Yn ogystal â hyn, cafwyd hyd i farc esgidiau yng nghartref y dioddefwr a oedd yn cyfateb i'r un esgidiau hyfforddi y gwelwyd Reed yn eu gwisgo ar gamera cylch cyfyng oriau yn unig cyn y digwyddiad.
Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth, mi gafodd ei garcharu am 10 mlynedd, hefo cyfnod estynedig o 4 blynedd ar drwydded.
Yn dilyn y ddedfryd, dwyeddod y Ditectif Gwnstabl Leslie Ellis o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae gan bawb yr hawl teimlo'n saff yn eu cartref nhw."
"Roedd hwn yn brofiad trawmatig i'r dioddefwr, a gafodd ei churo'n dreisgar wrth iddi gysgu yn ei gwely."
"Roedd y dioddefwr yn aelod poblogaidd o'i chymuned, a wasanaethodd yn ddewr fel nyrs am dros 30 mlynedd cyn ymddeol. Roedd hi'n hwyliog hefo personoliaeth fyrlymus ac roedd ganddi awch am fywyd. Ond ers y digwyddiad mae'n dioddef hefo'i hiechyd yn sylweddol o hyd."
"Roedd gweithrediadau Carl Reed yn ddirfawr ac ni ellir eu tanbrisio. Mae wedi cael effaith ddinistriol ar ei bywyd."
"Er na fydd unrhyw ddedfryd yn adlewyrchu'r trawma parhaol a brofwyd gan y dioddefwr, dwi'n canmol ei dewrder drwy gydol yr ymchwiliad."
"Hoffwn ddiolch hefyd i gymuned Caergybi am eu help sydd wedi helpu dwyn Carl Reed o flaen ei well."