Carcharu dyn wnaeth ddwyn fan dynes ym Mangor

Friday, 8 November 2024 01:48

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn wnaeth ddwyn fan dynes mewn ffordd dreisgar wedi ei garcharu am dros dair blynedd.

Mi blediodd Sion Williams yn euog i ladrad a gyrru heb yswiriant yn dilyn ymosodiad digymell y tu allan i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Toc wedi 11am ar 11 Gorffennaf 2024, ‘roedd dynes yn eistedd yn ei fan y tu allan i ysbyty pan, yn sydyn, agorodd Williams ei drws.

Yn ddireswm ac yn anhysbys i’r ddynes, mi gydiodd hi wrth ei gwallt a’i llusgo i’r llawr, ei tharo yn ei hwyneb ac anafu ei phen glin. Mi wnaeth o ddwyn ei fan a gyrru i ffwrdd o’r ysbyty.

Mi ddaeth parafeddyg i helpu’r ddynes, oedd angen tri phwyth yn ei phen glin yn dilyn y ymosodiad, 

Yn fuan wedyn, mi dderbyniodd yr heddlu alwad 999 yn riportio gwrthdrawiad ym Meddgelert. ‘Roedd Williams wedi gwrthdaro efo wal ac wedi rhedeg i ffwrdd, gan adael fan y dioddefwr yn y ffordd.

Mi ddaeth galwad brys pellach i’r heddlu yn hwyrach ymlaen, yn riportio bod Williams wedi ceisio mynd i dŷ dynes 74 oed, gan beri gofid a chodi ofn arni hi.

Mi ddaeth swyddogion o hyd i Williams toc wedi 2yp yn ardal Cefn Maes, Beddgelert lle gafodd ei arestio ac yna’i remandio i’r ddalfa.

Plediodd Williams, 31 oed o Stryd Edmund yn euog i bob un o'r cyhuddiadau, gan gynnwys methu â stopio ar ôl gwrthdrawiad a methu â riportio gwrthdrawiad.

Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau, mi gafodd ei garcharu am dair blynedd a phedwar mis.

Dywedodd yr ymchwilydd sifil, Stephen Williams, o Heddlu Gogledd Cymru: "Roedd hwn yn drosedd hynod o annifyr yn erbyn dynes fregus ar ei phen ei hun yn ystod oriau golau dydd, ar dir ysbyty lle ddylai hi wedi bod yn ddiogel."

“Mae’r ôl-effeithiau wedi cael effaith sylweddol arni hi a’i theulu, ac mi wnaiff gymryd cryn dipyn o amser i symud ymlaen oddi wrth weithrediadau treisgar Williams."

“Mae’n ffodus bod y math yma o drosedd yn anghyffredin iawn, ac mi ddalion ni’r un o dan amheuaeth yn gyflym.”

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Saturday Breakfast with Paul Hughes

    8:00am - 11:00am

    Join Paul as he kick-starts the weekend across Anglesey and Gwynedd! He's got great songs and local information to start your morning.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'