Carcharu dyn am ymosodiad mewn gorsaf reilffordd

Thursday, 31 October 2024 16:45

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig

Mae dyn wedi ei garcharu am ymosod ar ddynes yng ngorsaf reilffordd Bangor.

Yn Llys Ynadon Caernarfon, pleidiodd Roland Doano yn euog i'r ymosodiad ddydd Llun

Cafodd Doano (44 oed), heb gartref sefydlog, ei garcharu am wyth wythnos.

Clywodd y llys sut aeth Doano at fenyw ar y platfform yng ngorsaf Bangor ac eistedd wrth ei hymyl.

Yna rhoddodd ei fraich o'i chwmpas cyn iddi lwyddo i ddianc. Fe wnaeth Doano ei dilyn hi i drosbont a rhwystro ei hallanfa.

Gwelodd aeold o staff y rheilffordd y digwydddiad a chysylltodd â Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.

Cyrhaeddodd swyddogion ac arestio Doano yn brydlon a'i gymryd i'r ddalfa lle cafodd ei gadw yn y ddalfa tan ei ymddangosiad yn y llys ddydd Mawrth.

Dywedodd PC Jack Payton, y swyddog ymchwilio: "Roedd y fenyw hon yn mynd o gwmpas ei bywyd, yn gofalu am ei busnes ei hun pan aeth Doano ati a gweithredu mewn modd brawychus a bygythiol."

"Mae gweithredu cyflym gan swyddogion a staff y rheilffordd wedi arwain at ei arestio'n gyflym a'i ddedfrydu wedyn."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'