Carcharu dyn am ymosod yn rhywiol ar ferch

Tuesday, 8 October 2024 17:04

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn wedi cael ei garcharu am ymosod yn rhywiol ar ferch 13 oed ym Mangor.

Plediodd Terrance Lloyd yn euog yn dilyn ymosodiad yn nhŷ’r dioddefwr yn y ddinas.

Ym mis Gorffennaf y llynedd, dilynodd Lloyd y ferch 13 oed i mewn i'w chartref a'i tharo ar ei phen-ôl.

Er i'r ferch ddweud wrtho am stopio, gofynnodd am ei rhif ffôn hyd yn oed ar ôl iddi ddweud wrtho beth oedd ei hoed.

Yn llys ynadon Llandudno ddydd Gwener, cafodd Lloyd ei garchau am 44 wythnos. Rhaid iddo hefyd gofrestru gyda’r heddlu am gyfnod o saith mlynedd.

Dywedodd PC Amie, y swyddog ymchwilio o Heddlu Gogledd Cymru: "Roedd y dioddefwr yn yr achos hwn yn hynod o ddewr yn riportio'r hyn a ddigwyddodd iddi hi."

“Mae ei dewrder wedi arwain at euogfarnu Lloyd."

"Rydym wedi ymrwymo i erlyn trais yn erbyn merched a genethod a byddwn yn ymchwilio i unrhyw adroddiad o drais dan ni'n derbyn."

"Buaswn i'n annog unrhyw un sy'n dioddef trais i ddod ymlaen atom, mi fyddwn i'n gwrando, ac mi fyddwn ni'n eich cefnogi chi."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'