Mae dyn wedi cael ei garcharu am ymosodiad direswm ar ddynes mewn tafarn yng Nghaergybi.
Mi plediodd John Welsh yn euog i aflonyddu ac achosi gwir niwed corfforol yng Ngwesty'r George ar Stryd y Farchnad fis diwethaf.
Mae wedi cael ei wahardd o bob tafarn yng Ngogledd Orllewin Cymru am ddwy flynedd.
Yn ystod oriau mân dydd Llun 28 Hydref, yn dilyn ffrae gyda dyn arall, taflodd Welsh (61 oed) ddiod dros y dioddefwr a oedd yn eistedd wrth ymyl y dyn.
Ar ôl ceisio ei wthio i ffwrdd, taflodd Welsh stôl bar ati cyn neidio tuag ati, tynnu ei gwallt a tharo ei phen ar gadair.
Yna taflodd wydr ar draws ardal y bar cyn gadael y dafarn, a chafodd ei arestio yn fuan wedyn.
Yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Iau, cafodd Welsh ei garcharu am chwe mis. Mae hefyd wedi'i wahardd rhag mynd i bob safle trwyddedig yn Ynys Môn, Gwynedd a sir Conwy.
Dywedodd Rhingyll Chris Burrow o dîm plismona Ynys Môn: "Roedd hwn yn ymosodiad ysgytwol, llwfr a digymell ar y dioddefwr, nad oedd hyd yn oed yn adnabod Welsh a wnaeth hefyd ddychryn pobl eraill yn y dafarn."
"Yn syml, ni fydd trais yn erbyn menywod a merched yn cael ei oddef, a byddwn yn parhau i weithio'n ddiflino i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell."