Carcharu dyn am ymosod ar swyddogion heddlu

Thursday, 19 September 2024 07:53

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn a wneth ymosod ar ddau heddwas wedi cael ei garcharu am 12 wythnos.

Fe blediodd Dewi Glyn Parry, o Llandygai yn euog hefyd i ymosod ar y swyddogion yn dilyn anrhefn yng Nghaernarfon.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r stad Lôn y Bryn tua 9yh nos Lun.

Dechreuodd Parry (45 oed) ymddwyn yn dreisgar tuag at y swyddogion, gan wthio un heddwas i'r llawr a gafael a rhoi pwysau ar arddwrn yr un arall.

Cyrhaeddodd rhagor o swyddogion i gynnig cymorth, ac fe gafodd Parry ei arestio a'i gludo i'r ddalfa yng ngorsaf heddlu Caernarfon.

Ymddangosodd Parry o flaen Llys Ynadon Caernarfon ddydd Mawrth ac ac fe bleidiodd yn euog i dau gyhuddiad o ymosod ar weithwyr brys.

Dyweddod Ian Roberts, arolygydd ardal Gogledd Gwynedd: "Roedd gweithredoedd Parry yn erbyn y swyddogion heddlu a oedd yn gwneud eu dyletswyddau yn annerbyniol."

"Ni fyddwn yn derbyn ymosodiadau yn erbyn gweithwyr brys ac fe fyddwn yn delio â nhw ar unwaith."  

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'