Mae dyn o Benygroes wedi cael ei garcharu am anwybyddu gorchymyn atal ac aflonyddu ar ei gyn bartner.
Mi wnaeth Barry McCollum (32 oed) gyfaddef i dri achos o dorri gorchymyn atal ychydig wythnosau ar ôl dod allan o’r carchar am gyflawni’r un drosedd.
Wedi iddo gael ei ryddhau o’r carchar aeth McCollum i gartref y dioddefwr a gweiddi trwy ei blwch llythyrau cyn dychwelyd ar ddau achlysur yn gofyn am arian a dillad.
Dywedodd wrtho am fynd i ffwrdd a gadael llonydd iddi ond mi wnaeth ei ffonio hi o rif wedi ei gelu a bygwth hi a’i theulu. Cafodd ei arestio yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Yn llys ynadon Llandudno, cafodd McCollum ei garcharu am 15 mis arall.
Dwyeddod Rhingyll Liam Carr o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae gorchmynion atal yn arf pwerus sy'n cael eu defnyddio i amddiffyn dioddefwyr rhag niwed pellach. Gall torri'r amodau hyn arwain at ganlyniadau difrifol."
"Nid yw McCollum wedi dangos parch at y gorchymyn llys hwn trwy dorri'r amodau nifer o weithiau. Gobeithio y bydd yn adlewyrchu ar ei ymddygiad annerbyniol yn ystod ei ddedfryd."