Carchar i yrrwr yn dilyn marwolaeth mam

Friday, 4 October 2024 15:29

By Ystafell Newyddion MônFM

Llun teulu (Heddlu Gogledd Cymru)

Mae gyrrwr wedi cael ei garcharu am bron i saith mlynedd a hanner am achosi marwolaeth o fam ifanc o Bwllheli.

Bu farw Emma Louise Morris mewn gwrthdrawid pedwar cerbyd ar ffordd osgoi Felinheli yn mis Ebrill llynedd.

Cafodd ei mab pedair oed ei anafu'n ddifrifol ond fe oroesodd.

Plediodd Jacqueline Mwila o Abertawe yn euog i achosi marwolaeth ac anaf difrifol drwy yrru'n beryglus.

Mae teulu Ms Morris wedi beirniadu'r ddedfryd, gan deud "does dim cyfiawnder go iawn i Emma".

Toc cyn 7h ar nos Lun 3 Ebrill 2023, roedd Mwlia yn gyrru car Audi A3 ar yr A487 rhwng Y Felinheli a Chaernarfon pan ddaru hi wrthdaro â char a oedd yn cael ei yrru gan Ms Morris.

Cadarnhawyd fod Emma wedi marw yn y fan a’r lle. Cludwyd mab pedwar oed Emma i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl gydag anfiadau difrifol, cyn iddo gael ei drosglwyddo i uned arbenigol yn Stoke ond cafodd ei rhyddhau o’r ysbyty ychydig o ddyddiau wedyn.

Cludwyd dau arall i Ysbyty Gwynedd ym Mangor gydag anafiadau difrifol ond cawsant hwythau hefyd eu rhyddhau o’r ysbyty.

Aethpwyd â Mwila i’r ysbyty yn Stoke gan yr ambiwlans wwyr ond cafodd ei rhyddhau yn ddiweddarach.

Yn Llys Llandudno ddydd Gwener, dedfrydwyd Mwlia i saith mlynedd a phedwar mis yn y carchar. 

Mewn datganiad drwy'r heddlu, dyweddod teulu Emma: "Mae wedi bod yn daith hir, poenus a phryderus i gyrraedd y pwynt hwn heddiw o’r diwedd. Does dim cyfiawnder go iawn i Emma."

“Achosodd Jaqueline Mwila ei marwolaeth drwy yrru’n beryglus, ac er iddi bledio’n euog i’r holl gyhuddiadau yn ei herbyn, nid yw’r ddedfryd a roddwyd iddi yn mynd yn ddigon pell i ni fel teulu."

“Mae ein bywydau wedi cael eu newid am byth, wedi’u chwalu, wedi’u llurgunio gan ddiffyg sylw a gofal y ddynes hon a  ddewisodd yrru mor beryglus a lladd ein merch heb unrhyw ystyriaeth i ddefnyddwyr eraill ar y ffordd y diwrnod hwnnw."

“Byddwn yn ceisio symud ymlaen heb ein Emma hardd.  Rhaid i’w dau blentyn wynebu’r dyfodol heb eu mam gariadus. Mae ein poen yn gyson, mae ein calonnau yn parhau i fod wedi torri.”

Ynghyd a’r ddedfryd o garchar, mae Mwila wedi cael ei gwahardd rhag gyrru am naw mlynedd a 46 wythnos a bydd rhaid iddi gymryd prawf gyrru estynedig.

Ychwnaegodd PC Gareth Rogers o’r uned ymchwilio gwrthdrawiadau difrifol yn Heddlu Gogledd Cymru: "Tra bod Mwila nawr yn y carchar am y drosedd hon, does dim byd yn mynd i ddod ag Emma nôl, ac mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad gyda’i theulu a’i ffrindiau sydd wedi dioddef dinistr anhygoel."

"Nid oes unrhyw ddedfryd a all fyth gymryd lle’r twll a adawyd yn eu bywydau, ond rydym yn gobeithio y bydd pasio’r ddedfryd hon yn fodd i atgoffa pob gyrrwr y gall colli canolbwyntio am eiliad arwain at ganlyniadau dinistriol."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'