Carchar i ddyn wnaeth ymosod ar ddyn mewn oed yn ei gartref

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn wnaeth daro dyn mewn oed tan iddo golli ymwybyddiaeth yn ystod ymosodiad direswm yn ei gartref ei hun wedi’i garcharu.

Mi ymddangosodd Jason Mark Owen, o Laingoch, Caergybi yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar ôl cyfaddef achosi niwed corfforol difrifol.

Ar dydd Gwener 10 Ionawr, mi ddechreuodd y dyn 36 oed gnocio ar ddrysau a ffenestri yn Tan yr Efail, Caergybi, cyn iddo ddechrau bod yn sarhaus ac yn fygythiol tuag at breswylwyr.

Pan agorodd dyn 75 oed ei ddrws er mwyn gweld beth oedd yn mynd ymlaen, mi wnaeth Owen ymosod arno, a’i daro i’r llawr.

Yna, mi aeth Owen i fewn i dŷ’r dyn, gan achosi difrod i’r dodrefn y tu fewn, wrth i’r dyn orwedd yn anymwybodol yn ei gyntedd, efo’i drwyn ac asgwrn ei foch wedi’u torri. Yna dechreuodd aflonyddu pobl oedd yn mynd heibio, gan eu hannog i gwffio.

Mi gafodd Owen ei garcharu am ddwy flynedd a thri mis.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Leslie Ellis: “Mi wnaeth gweithrediadau didrugaredd Owen y noson honno gael effaith ddifrifol ar breswylwyr Tan yr Efail."

“Ni wnaeth o ddangos unrhyw edifeirwch am ei ymddygiad ar ôl cael ei arestio a’i gyfweld, er ei fod wedi achosi i hen ddyn dorri ei esgyrn. Mi ddylai pawb deimlo’n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain, ac mae Owen wedi tarfu ar y teimlad hwn o ddiogelwch."

“’Dwi’n diolch i gymdogion y dioddefwr, wnaeth frysio yn ddewr i’w helpu a helpu’r heddlu efo’n ymchwiliadau.”

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    2:00pm - 4:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'