Carchar i ddyn ar ôl dwyn gwerth dros £50,000 o dlysau

Tuesday, 19 November 2024 10:38

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn wedi ei garcharu ar ôl dwyn gwerth dros £50,000 o dlysau o siop ym Mangor.

Yn Llys y Goron Caernarfon, cafodd Iain Butterworth o Maesgeirchen ei garcharu am ddwy flynedd ac wyth mis ar ôl cyfaddef dwyn ac achosi difrod troseddol yng nghanolfan Deiniol.

Ar 25 Mawrth 2023, mi dresmasodd Butterworth (50 oed) i'r ganolfan siopa ar y Stryd Fawr tra ‘roedd ar gau, gan ddefnyddio teclyn ar gyfer torri drysau gwydr siop hen bethau, er mwyn torri i fewn.

Wedi cael mynediad, mi wnaeth Butterworth ddwyn swm mawr o dlysau, gwerth tua £56,100 o'r siop hen bethau, gan roi’r cyfan mewn bag plastig cyn dianc o’r ganolfan siopa.

Mi gofnodwyd y digwyddiad ar TCC, a wnaeth adnabod Butterworth.

Dywedodd y swyddog ymchwilio, PC Stephanie Owen, o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae byrgleriaeth o unrhyw fath yn drosedd  ymosodol, a gallai fod yn anodd iawn i ddioddefwyr ddod i delerau efo’r ffaith bod troseddwyr wedi bod yn eu cartrefi neu eu busnesau er mwyn dwyn eiddo."

"Yn yr achos hwn, ni wnaeth Butterworth ystyried perchnogion y busnes na’u heiddo o gwbl."

"Da ni’n benderfynol o barhau i sicrhau bod lladron yn cael eu carcharu, a ‘da ni’n croesawu’r ddedfryd hon i’r carchar gan y llys y tro yma."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    10:00am - Noon

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'