Mae dyn o dde Gwynedd wedi cael ei garcharu am ddwy flynedd am ymosod ar ei gyn-gymar.
Plediodd Iwan Lloyd, o Ganllwyd, ger Dolgellau, yn euog i'r ymosodiad yn dilyn digwyddiad domestig ym mis Gorffennaf.
Cafodd ei ddioddefwr ei gludo i'r ysbyty gydag anaf i'w ben.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod Lloyd yn ffraeo efo’i gyn-gymar, pan gydiodd ynddi wrth ei gwddw, a’i tharo hi tro ar ôl tro ar y llawr.
Mi daflodd boteli cwrw o gwmpas y tŷ a’u malu yn erbyn y waliau, gan achosi difrod i eitemau yn y tŷ.
Cafodd Lloyd ei wahardd rhag cysylltu â'i ddioddefwr am ddeng mlynedd o dan orchymyn atal.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Dominique Swift o Heddlu Gogledd Cymru: “Ni fydd trais o unrhyw fath yn cael ei oddef, ac mi wnawn ni ymlid unrhyw adroddiadau o gam-drin domestig."
“Mae fy meddyliau efo’r dioddefwr, oedd yn ddewr yn dod atom ni yn dilyn profiad brawychus. Dwi’n gobeithio ei bod yn medru symud yn ei blaen, gan wybod na allai o gysylltu efo hi.”