Carchar i ddyn am sarhau dynes yn hiliol

Saturday, 26 October 2024 10:14

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn wedi ei garcharu yn dilyn sarhau dynes yn hiliol yng Nghaernarfon.

Pleidiodd Michael Williams (36), o Ddolfor, ger Pwllheli, yn euog i aflonyddwch gwaethygedig ar sail hil a thorri amodau gorchymyn atal troseddau rhywiol.

Ar 9 Awst, ‘roedd dynes wrth orsaf fysiau Caernarfon efo’i phlant, pan ddaeth Williams ati a dechrau ei sarhau’n hiliol, heb achos.

Mi ddechreuodd weiddi arni i “fynd yn ôl i le ddes ti” a dweud “’dwyt ti ddim yn perthyn yma”, gan adael y ddynes a’i phlant yn teimlo’n ofidus ac yn drist.

Mi achosodd yr ymddygiad hwn iddo dorri amodau ei orchymyn atal troseddau rhywiol, a dderbyniodd yn 2008, oedd yn ei wahardd rhag fynd ar gyfyl neu aflonyddu neu fygwth merched.

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug, cafodd Williams ei garcharu am ddwy flynedd ac un mis. Mi gafodd hefyd orchymyn atal er mwyn diogelu’r dioddefwr, fydd yn para am dair mlynedd.

Dywedodd Ian Roberts, yr Arolygydd Ardal o Heddlu Gogledd Cymru: "Roedd yr ymddygiad ffiaidd hwn wedi’i dargedu at ddynes oherwydd ei hil."

“Ni fyddwn yn goddef hyn yng Ngwynedd, a byddwn yn ymdrin yn gadarn ag unrhyw ddigwyddiadau troseddau casineb.”

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM Sport with Ryan McKean

    2:00pm - 5:00pm

    Ryan McKean keeps you up to date with all the latest football scores across North Wales

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'