Carchar i ddyn a wnaeth fygwth rhoi gorsaf betrol ar dân

Saturday, 26 October 2024 10:07

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn a wnaeth fygwth rhoi dynes ar dan a llosgi gorsaf betrol wedi ei garcharu am wyth mis.

Roedd Steven Johnson yn canu a chwarae offeryn wrth yr orsaf betrol ym Mhentraeth, pan ofynnwyd iddo i adael.

Dechreuodd Johnson waeddi ar y rheolwr gan fygwth rhoi'r lle ar dân gyda thaniwr sigarét yn ei law.

Cododd drwyn y biben betrol gan waeddi ei fod yn mynd i roi'r lle a'i hunan ar dân cyn i'r rheolwr wthio Johnson i ffwrdd a rhoi'r biben betrol yn ôl yn y pwmp.

Aethpwyd â Johnson o'r lleoliad gan y rheolwraig a'u chydweithwyr ond dywedodd y byddai'n dychwelyd a thorri'r ffenestri. Cafodd ei arestio yn ddiweddarach.

Plediodd Johnson, 52 oed, o Gaernarfon, yn euog i fygwth difrodi eiddo.

Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener, mi gafodd ei garcharu am wyth mis.

Meddai Rhingyll Beth Lloyd o Heddlu Gogledd Cymru⁠: "Rwyf yn cymeradwyo gweithredoedd y staff yn yr orsaf a wnaeth weithredu yn gyflym i atal Johnson rhag achosi niwed sylweddol er gwaetha'r ffaith eu bod mewn peryg gwirioneddol."

“Mi allai'r canlyniadau fod wedi bod yn ddifrifol iawn a gobeithio y bydd Johnson yn adlewyrchu ar ei ymddygiad."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'