Canfod achosion o'r tafod glas yng Ngwynedd

Saturday, 28 September 2024 01:00

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae tri achos o straen newydd o'r tafod glas wedi eu darganfod mewn praidd o ddefaid yng Ngwynedd.

Dyma'r tro cyntaf i'r Tafod Glas-3 - neu BTV-3 - gael ei ganfod yng Nghymru ac mae'n dilyn darganfod achosion yn nwyrain Lloegr dros y mis diwethaf.

Yn ôl swyddogion milfeddygol, fe gafodd y defaid eu cludo i ogledd Cymru o'r rhanbarth.

Mae Llywrodaeth Cymru yn galw ar ffermwyr i fod yn wyliadwrus am y clefyd a phrynu anifeiliaid o ffynhonnell ddiogel.

Mae'r tafod glas yn cael ei achosi gan feirws sy'n cael ei drosglwyddo'n bennaf gan rai mathau o wybed sy'n brathu. Mae'n effeithio ar anifeiliaid cnoi cil (fel gwartheg, geifr, defaid a cheirw) a chamelidau (fel alpacas a lamas).

Nid yw'r tafod glas yn effeithio ar bobl nag ar ddiogelwch bwyd.

Mae ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal ar y fferm sydd wedi’i heffeithio i benderfynu a oes angen mesurau rheoli ychwanegol.

Mae parth cyfyngu yn ei le yn ne ddwyrain Lloegr mewn ymdrech i atal lledaeniad y clefyd.

Dywedodd Gavin Watkins, y dirprwy brif swyddog milfeddygol yng Nghymru: "Mae’r achosion sydd wedi’u canfod yng Ngwynedd mewn anifeiliaid sydd wedi’u prynu i Gymru."

“Byddwn yn rhoi mesurau ar waith i atal y clefyd rhag lledaenu o’r tair dafad yma, a’n nod ni o hyd yw cadw Cymru’n rhydd o’r tafod glas."

“Mae’n bwysig siarad ȃ’ch milfeddyg, a phrynu anifeiliaid o ffynonellau diogel er mwyn diogelu ein buchesau a’n heidiau ac atal unrhyw ymledu pellach ar y clefyd allan o Gymru."

"Byddwn yn annog pob ffermwr a phawb arall sy'n cadw anifeiliaid cnoi cil a chamelidau i gadw llygad am arwyddion o’r tafod glas ac i roi gwybod i APHA (Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion) am amheuaeth o unrhyw achosion ar unwaith."

“Rydym wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o’r clefyd gyda milfeddygon a'r diwydiant ac yn gwerthfawrogi eu help i gyfathrebu’r risgiau i geidwaid anifeiliaid yng Nghymru."

Ers mis Mai, mae ffermwyr wedi cael eu hannog i fod yn wyliadwrus am arwyddion o’r tafod glas ers yr achos cyntaf yn dilyn achos cyntaf y straen newydd yng Nghaint fis Tachwedd diwethaf.

Mae gwybodaeth am arwyddion clinigol y tafod glas a'r camau i'w cymryd ar gael ar y wefan Llywrodaeth Cymru.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'