Camau gorfodi yn lleihau perygl llifogydd

Monday, 16 September 2024 19:25

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

Mae camau gorfodi mewn perthynas â gwaith a wnaed heb ganiatâd wedi helpu i leihau perygl llifogydd ac wedi cyfyngu ar y potensial am effeithiau andwyol ar yr amgylchedd.

Mae swyddogion datblygu a pherygl llifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi ymgymryd â chyfres o gamau gorfodi llwyddiannus yn erbyn gweithgareddau a wnaed heb ganiatâd ar sawl safle ar draws y rhanbarth. 

Mae hyn yn cynnwys rhoi cyngor ac arweiniad ac anfon llythyrau rhybuddio a hysbysiadau adfer at dirfeddianwyr sy’n gwneud gwaith heb y Drwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd (FRAP) angenrheidiol.

Gellir rhoi hysbysiadau adfer i dirfeddianwyr, ynghyd â chyngor ar atal llygredd, ar gyfer ymgymryd â gwaith i wrthdroi effeithiau gwaith a wnaed heb ganiatâd a allai gynyddu perygl llifogydd neu achosi difrod amgylcheddol.

Yn Efailnewydd, ym Mhen Llŷn, adeiladwyd bwnd pridd heb ganiatâd o fewn gorlifdir Afon Rhyd-hir a allai fod wedi arwain at berygl uwch o lifogydd i eiddo ac isadeiledd gerllaw.

Yn dilyn adroddiad, ymwelwyd â’r safle ac eglurodd y tirfeddianwyr eu bod wedi rhoi deunydd dros ben mewn bwnd 1.5 metr o uchder am tua 150m ar hyd yr afon.

Eglurodd swyddogion CNC y byddai’r bwnd yn atal dŵr rhag llifo i’r gorlifdir ac yn gwaethygu problemau erydiad drwy gadw’r dŵr yn y sianel.

Cyflwynwyd Hysbysiad Adfer a chymerodd y tirfeddianwyr gamau i unioni’r sefyllfa drwy greu bylchau yn y bwnd i sicrhau y gallai dŵr llifogydd ddal i gysylltu â’r gorlifdir a lleihau unrhyw gynnydd posibl yn y perygl llifogydd i dir ac eiddo cyfagos.

Ymysg y gwaith gorfodi diweddar arall, cafodd aildroseddwr yn mewnforio deunydd i’r gorlifdir a’i storio mewn modd a allai ailgyfeirio dŵr llifogydd. Cyflwynwyd hysbysiad stop a chliriwyd y deunydd.

Dywedodd Keith Ivens, rheolwr gweithrediadau CNC ar gyfer rheoli llifogydd a dŵr: "Mae rheoli perygl llifogydd yn effeithiol yn hanfodol ar gyfer lleihau perygl llifogydd i’n cymunedau a’r amgylchedd."

"Cwblhawyd y gweithgareddau gan y tirfeddianwyr yn yr achosion hyn heb y trwyddedau angenrheidiol. Mae’r ystod o gamau gorfodi a ddefnyddiwyd yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau perygl llifogydd ac i ddiogelu ein hadnoddau naturiol."

"Trwy fynd i’r afael â gweithgareddau perygl llifogydd nas caniateir, gallwn helpu i leihau perygl llifogydd yn y dyfodol a gwella gallu’r rhanbarth i addasu a lliniaru effeithiau hinsawdd yn y dyfodol."

"Mae hyn yn hanfodol ar gyfer sicrhau iechyd hirdymor ein dyfrffyrdd a diogelwch ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd.”

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'