Bydd gwaith yn dechrau'r wythnos nesaf ar gynllun adfywio mawr ar gyfer canol tref Caergybi.
Bydd Stryd Stanley yn cau am bythefnos ar gyfer gosod wyneb newydd ar y ffordd, ffel rhan o gam cyntaf y proseict Trawsnewid Trefllun.
Mae £22.5 miliwn o gyllid gan gyn Lywodraeth y DU wedi’i glustnodi ar gyfer buddsoddi mewn eiddo ac adeiladau gwag ar y brif stryd.
Y nod yn y pendraw fydd ail greu prysurdeb canol y dref a denu buddsoddiad newydd.
Mae canol tref Caergybi wedi’i chydnabod fel un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru - ac mae'r sefyllfa wedi'i chwyddo gan Covid a'r argyfwng costau byw.
Ond trwy’r buddsoddiad hwn y gobaith yw gwrthdroi hyn, gan adfer balchder lleol gyda chyfleusterau cymunedol newydd a chreu gofod y gall trigolion ac ymwelwyr eu mwynhau.
Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard, dirprwy arweinydd Cyngor Môn: “Mae hwn yn brosiect arwyddocaol i Gaergybi, rydyn ni’n edrych ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y gall ei gael ar yr economi yn ogystal â’r gymuned leol."
“Fel un gafodd ei fagu yn y dref, rydw i’n ymwybodol iawn o’i hanes a’i diwylliant unigryw. Mae mewn lleoliad arbennig, gyda'i gysylltiadau efo Iwerddon ac fel porth i gyrchfannau gwyliau poblogaidd. Rydyn ni am wneud yn siŵr y gall fanteisio ar hyn er budd trigolion a busnesau."
"Ein bwriad yw ail greu canol tref sy’n ffynnu, un sy’n adlewyrchu ysbryd a photensial Caergybi, ac un a fydd yn denu cyfleoedd newydd, er mwyn sicrhau dyfodol mwy disglair i bawb."
Bydd Stryd Stanley ar gau o dydd Llun 30 Medi ar gyfer gosod wyneb newydd ar y ffordd, a chychwyn ar gam cyntaf y gwaith ar rai o'r adeiladau allweddol yng nghanol y dref.
Bydd busnesau Stryd Stanley ar agor fel arfer wrth i'r gwaith adfywio fynd rhagddo.
Ychwanegodd y Cynghorydd Pritchard: “Rydym yn gwerthfawrogi y gallai fod rhywfaint o anghyfleustra wrth i’r trawsnewid ddechrau, ond trwy weithio gyda’n gilydd y gobaith yw bod y budd hirdymor yn llawer iawn mwy nag unrhyw anhawster tymor byr.“
Mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn 2026, gyda’r datblygiadau yn anelu at annog buddsoddiad pellach.