Caergybi: galw am gymorth ariannol i fusnesau

Thursday, 3 April 2025 00:05

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae busnesau gafodd eu heffeithio gan gau Porthladd Caergybi angen cymorth ariannol 'rŵan', yn ôl arweinydd Cyngor Ynys Môn.

Mae’n dilyn rhyddhau’r canfyddiadau cychwynnol gan bwyllgor Senedd ar ddifrod a chau yr porthladd yn dilyn Storm Darragh yn mis Rhagfyr.

Yn ôl yr adroddiad, roedd gwerth y fasnach oedd yn mynd drwy Gaergybi fis Rhagfyr diwethaf bron hanner biliwn yn llai na’r flwyddyn flaenorol.

Mae un o'i brif argymhellion yn annog Llywodraeth Cymru i benderfynu ar fyrder pa gymorth ariannol a chymorth arall y bydd yn ei ddarparu ar gyfer busnesau lleol yr effeithiwyd arnynt.

Caeodd y porthladd yn sydyn ar Ragfyr 7fed, 2024, ac ni chafodd ei ail-agor am 40 diwrnod arall.

Yn ôl yr cyngor sir, Gostyngodd data ymwelwyr ar gyfer Rhagfyr 2024 ac Ionawr 2025 o 36% a 33% yn ôl eu trefn o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2023 a 2024.

Croesawodd y Cynghorydd Gary Pritchard ganfyddiad yr adroddiad: "Bu i'r arolwg effaith ar gau Porthladd Caergybi a gynhaliwyd gan y cyngor ym mis Ionawr helpu ni ddeall yr effeithiau ar fusnesau lleol."

"Mae rhai wedi cael eu heffeithio'n ddifrifol ac mae angen cymorth ariannol arnyn nhw rŵan."

Ychwanegodd: "Mae llawer o fusnesau yn dibynnu ar y traffig fferi ac adroddodd rhai bod masnach wedi gostwng 90%. Roedd eraill wedi colli degau o filoedd o bunnoedd ac mae 'na dal ofn yn bodoli bod llai o hyder yn hyfywedd a gwytnwch y porthladd."

"Mae'r busnesau hyn wedi aros yn ddigon hir am gymorth ariannol a byddwn yn gofyn i Lywodraeth Cymru am gyllid yn dilyn casglu'r dystiolaeth bwysig yma."

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf tasglu gwydnwch Môr Iwerddon yr wythnos diwethaf, rhwng llywodraethau Cymru ac Iwerddon, fel rhan o ymdrechion i "gryfhau cysylltiadau hanfodol ar y môr rhwng y gwledydd".

Dwyeddod Dylan J Williams, prif weithredwr Cyngor Ynys Môn: "Mae gan Borthladd Caergybi bwysigrwydd economaidd rhyngwladol. Mae'n sbardun economaidd-gymdeithasol gwerthfawr i dref Caergybi, ond hefyd yn gysylltiad allweddol rhwng Cymru, Iwerddon a gweddill Ewrop."

"Mae ei gwytnwch yn y dyfodol yn allweddol er mwyn cynnal y llwybr masnach hanfodol sy'n bodoli rhwng Dulyn a Chaergybi i'r dyfodol."

"Rydym hefyd yn falch o weld Tasglu Cymru ar waith ac edrychwn ymlaen at gryfhau perthnasau gweithio gyda'n partneriaid wrth gefnogi ei ymdrechion dros y misoedd nesaf."

"Bydd sicrhau gwytnwch hirdymor Porthladd Caergybi yn ychwanegu gwerth wrth i ni weithio tuag at wella masnach leol a rhyngwladol."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM Breakfast with Ray Owen

    7:00am - 10:00am

    Good Morning! Ray Owen is here to start your day with great music on MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'