Caergybi: carcharu dyn am cam-drin domestig

Friday, 18 October 2024 00:47

By Ystaffell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn o Gaergybi wedi cael ei garcharu am orfodi ei gyn bartner i ymgyrch o gam-drin domestig.

Pleidiodd Dwayne Thomas yn euog yn dilyn cyfnod parhaus o drais a chamdriniaeth tuag at ei gyn-gariad.

Ymosododd Thomas (33) ar ei bartner sawl gwaith, gan ei rheoli a’i gorfodi mewn ffordd afresymol a hefyd ei chicio, ei dyrnu a’i tharo â’i ben.

Mewn digwyddiadau eraill, fe wnaeth Thomas dagu ei ddioddefwr nes iddi fynd yn anymwybodol, a gwthio torrwr pizza i mewn i'w cheg.

Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mercher, cafodd ei garcharu am bedair blynedd ac wyth mis ar gyfer am geisio achosi niwed corfforol difrifol ac ymddygiad gorfodol a rheolaethol mewn perthynas agos.

Bydd Thomas yn parhau ar drwydded am dair blynedd ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r carchar.

Cafodd Thomas ei roi ar destun gorchymyn atal amhenodol i amddiffyn ei ddioddefwr.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'