Mae trigolion Ynys Môn yn cael eu holi i rannu eu barn am fywyd ar yr ynys.
Mae'r cyngor sir wedi lansio arolwg newydd er mwyn rhoi cyfle i chi ddweud wrthym beth sy'n bwysig i chi yn eich ardal leol.
Dros y chwe wythnos nesaf, bydd yr arolwg yn gofyn i drigolion am eu barn ar bopeth o drafnidiaeth i dai a'r ffordd mae'r Cyngor Môn yn darparu ei wasanaethau.
Dwyeddod arweinydd y cyngor, Gary Pritchard: "Rydym yn dymuno clywed gan drigolion Ynys Môn. Bydd eich adborth yn ein cynorthwyo ni i ddeall beth sy'n gweithio a beth ellid ei wella."
"Mae'r arolwg 'Dewch i Siarad: Byw ar Ynys Môn' yn hawdd a chyflym – bydd ond yn cymryd ychydig funudau i'w lenwi."
"Bydd eich barn yn ein helpu ni i lunio gwasanaethau'r dyfodol ar Ynys Môn. O ysgolion i ganolfannau hamdden, bydd eich mewnbwn yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau yn y dyfodol."
"Rydym yn dymuno clywed cynifer o leisiau â phosibl felly dywedwch wrth eich ffrindiau, eich teulu a'ch cymdogion am yr arolwg. Rydym eisiau clywed gan gymaint o bobl â phosibl."
Ychwanegodd llefarydd Cyngor Môn: "Gofynnir i chi hefyd am eich ardal leol a sut yr ydych chi'n teimlo am fyw yno; eich profiad o ddefnyddio gwasanaethau'r cyngor a p'un ai a ydych yn hapus â'r modd yr ydym yn eich diweddaru."
Mae’r arolwg wedi’i ddatblygu gan Data Cymru, sy’n gweithio gyda Chyngor Ynys Môn a’r Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.