Busnesau Gwynedd yn derbyn hwb ariannol

Cyngor Gwynedd

Mae gwerth dros £2 filiwn o gyllid wedi'i ddyrannu i fusnesau Gwynedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf trwy becyn o grantiau i gefnogi a buddsoddi mewn busnesau lleol.

Sefydlodd Cyngor Gwynedd grantiau ‘Trawsffurfio’ a ‘Sbarduno’ gwerth rhwng £2,500 a  £250,000 drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd a Chronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru fel cynllun i gefnogi busnesau Gwynedd i adfer a datblygu, sefydlogi a pharatoi ar gyfer y dyfodol.

Un busnes o Wynedd sydd wedi elwa o’r cynllun Trawsffurfio yw Chilli Penguin, Pwllheli, yr unig wneuthurwr stôf yng Ngogledd Cymru.

Mae'r busnes wedi dod yn arweinydd yn y diwydiant, gyda rhwydwaith o dros 100 o stocwyr ledled y DU.

Mae'r grant wedi galluogi Chilli Penguin i gynnig mwy o amrywiaeth o gynnyrch, gan fodloni gofynion marchnadoedd newydd a gwella hyblygrwydd eu prosesau cynhyrchu. Mae'r ehangu hwn wedi ysgogi twf o fewn y cwmni ac wedi diogelu swyddi.

Dywedodd Arwel Cullen o gwmni Chilli Penguin: "Mae'r grant wedi’n galluogi ni i ehangu amrediad ein cynnyrch a chynyddu hyblygrwydd ein gweithgynhyrchu. Mae hyn wedi golygu ein bod ni’n gallu cyrraedd  marchnadoedd newydd a chynnal cyflogaeth leol."

Mae busnes Cogs y Gogs yng Nghaernarfon hefyd wedi elwa drwy grant Sbarduno ac wedi defnyddio’r nawdd i brynu offer arbenigol i drwsio beiciau trydan.

Mae'r buddsoddiad hwn wedi galluogi’r cwmni i ehangu i farchnad sy'n tyfu'n gyflym a sicrhau llwyddiant hirdymor ei fenter.  

Meddai Neil Jones, sylfaenydd y busnes: "Nawr ein bod yn arbenigo mewn diagnosteg, atgyweiriadau, a phecynnau e-feic, rydym wedi gallu diogelu'r busnes yn y dyfodol gan ddefnyddio Cronfa Sbarduno i brynu offer a fyddai fel arall yn gwneud y swydd yn anhygoel o anodd."

Mae busnesau stryd fawr mewn canol trefi a dinasoedd drwy Wynedd hefyd wedi cael budd o’r Grantiau Gwella Eiddo Canol Trefi sydd, sydd wedi eu galluogi i ddatblygu ac uwchraddio eu heiddo.

Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, aelod cabinet economi a chymuned Cyngor Gwynedd: "Mae bwrlwm a hyfywdra canol trefi yn allweddol i economi Gwynedd ac mae’n wych gweld gwelliannau i wyneb adeiladau yng nghanol trefi Y Bala, Caernarfon, Bangor a Pwllheli, sydd wir yn adfywio’r ardaloedd hyn."

“Mae’r gwelliannau wedi trawsnewid sawl eiddo i fod yn ofod deniadol a chroesawgar, gan hefyd gyfrannu tuag at greu adeiladau fwy ynni effeithlon a diogel am flynyddoedd i ddod.

“Dwi’n falch bod cynifer o fusnesau Gwynedd wedi gweld y cyfle i fanteisio ar y nawdd ariannol sydd ar gael, a bod y cyngor o ganlyniad yn medru cefnogi ein busnesau lleol i ffynnu a datblygu.”

Cefnogwyd y grantiau gwella eiddo canol trefi gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd a Chyngor Gwynedd.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    2:00pm - 4:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'