Buddiannau newydd i ofalwyr maeth yng Ngwynedd

Friday, 11 April 2025 14:37

Maethu Cymru Gwynedd

Bydd gofalwyr maeth yng Ngwynedd yn derbyn pecyn o fuddiannau a chymhellion, fel rhan o'r ymgyrch i annog gofalwyr i barhau i faethu ac i ddenu mwy o bobl i gynnig y gwasanaeth amhrisiadwy.

Wedi i gabinet Cyngor Gwynedd gymeradwyo'r cynnig, bydd rhieni maeth sy'n maethu gyda'r awdurdod lleol yng Ngwynedd nawr yn derbyn:

  • Gostyngiad o 50% ( 25% i Ofalwr Maeth egwyl fer) ym miliau treth cyngor prif breswylfa gofalwyr maeth yng Ngwynedd
  • Tocyn parcio blynyddol am ddim i holl feysydd parcio'r cyngor.
  • Defnydd diderfyn o ganolfannau hamdden trwy'r cerdyn gostyngol 'max'.

Bydd Cyngor Gwynedd hefyd yn mabwysiadu polisi Maethu Cyfeillgar i ofalwyr maeth Maethu Cymru Gwynedd sy'n gyflogedig i'r awdurdod.

Bydd yn cynnig hyblygrwydd mewn trefniadau gweithio er mwyn cwrdd ag anghenion y plant sydd yn eu gofal.

Dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme, aelod cabinet plant a theuluoedd: "Drwy faethu'n lleol, gyda Chyngor Gwynedd, mae ein gofalwyr maeth yn helpu plant a phobl ifanc lleol i aros yn eu cymuned, yn agos at ffrindiau ac aelodau o'r teulu y maent yn cadw mewn cysylltiad â nhw."

"Mae'n eu cadw'n gysylltiedig, yn adeiladu sefydlogrwydd ac, yn hollbwysig, yn eu helpu i gadw eu synnwyr o hunaniaeth."

"Mae pecyn cymorth eisoes ar gael i'n gofalwyr maeth profiadol ac ymroddedig, ond drwy gyflwyno cyfres o gymhellion newydd rydym yn dangos ein cefnogaeth a gwerthfawrogiad iddynt, ac o bosib yn annog a denu mwy i fod yn ofalwyr maeth."

Mae Karen a Stephen wedi bod yn maethu gyda Maethu Cymru Gwynedd ers 24 mlynedd ac yn croesawu'r cyhoeddiad newydd.

"I ni, nid yw maethu yn 'swydd', mae'n ffordd o fyw ac rydyn ni'n ei wneud oherwydd ein bod ni wir eisiau. Nid ydym yn maethu am yr arian ond mae'n bwysig iawn eich bod chi'n cael digon o gefnogaeth i allu diwallu anghenion y plant yn eich gofal."

"Mae rhai plant yn dod i mewn i gartref maeth heb ddim, dim un peth. Bydd y pecyn newydd hwn gan Gyngor Gwynedd, fel y gostyngiad yn ein bil treth cyngor, yn ein galluogi i roi pethau neis i'n plant maeth; diwrnodau allan neu hyd yn oed gwyliau bach."

"Rydyn ni'n mwynhau creu atgofion newydd arbennig i'r plant, a bydd y buddion hyn sy'n cynnwys pris gostyngol am ddefnydd o gyfleusterau canolfannau hamdden, yn sicr yn ein helpu i wneud hynny."

Bydd y pecyn cymhellion newydd yn cryfhau cynnig Maethu Cymru Gwynedd i gadw ac ychwanegu at y nifer gofalwyr maeth yng Ngwynedd.

Bydd hefyd yn tynnu sylw at fanteision gofal maeth awdurdodau lleol fel rhan o Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol nodedig Llywodraeth Cymru i ddileu elw o'r system gofal plant. 

Am ragor o wybodaeth neu i gysylltu â'r tîm, ewch i gwefan Maethu Cymru Gwynedd.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'