Mae gwaith wedi dechrau ar gartref newydd i ysgol gynradd Gatholig ym Mangor.
Bydd Ysgol Ein Harglwyddes yn symud i gyfadeilad newydd gwerth £8 miliwn ar hen safle Ysgol Glanadda yn 2026.
Cafodd disgybilion gyfle i fod yn rhan o seremoni i nodi dechrau’r gwaith adeiladu ar eu hysgol newydd, a fydd yn disodli'r safle presennol ar Ffordd Caernarfon.
Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae buddion amgylcheddol mawr i’r cynllun – drwy godi’r ysgol ar safle tir llwyd, mae "arbedion amlwg" i’r amgylchedd. Bydd yr ysgol newydd hefyd yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg wyrdd.
Dywedodd Mrs Aimee Jones, pennaeth Ysgol Ein Harglwyddes: "Mae staff a llywodraethwyr cyfredol a blaenorol, ynghyd â llawer o ddisgyblion a rhieni sydd wedi dod trwy glwydi’r ysgol dros y blynyddoedd, yn edrych yn ôl gyda atgofion melys am eu hamser yn ein hadeilad presennol."
"Wedi dweud hynny, rydym wedi ein cyffroi o weld gwaith adeiladu yn dechrau ac edrychwn ymlaen ar gyfer y bennod newydd hon o ddarparu cenedlaethau’r dyfodol gyda’r addysg Gatholig orau, mewn amgylchedd fodern wedi ei adeiladu i’r pwrpas. Rydym wedi bod yn dyheu am hyn am flynyddoedd lawer."
"Dymunwn ddiolch i Saer y penseiri am eu cydweithrediad ac am ganiatáu ein mewnbwn i’r dyluniadau cychwynnol. Rydym yn benderfynol o ddod a’n hanes cryf a’n ethos gynhwysol, ofalgar a theuluol gyda ni pan rydym yn mudo i’r safle newydd."
Bydd £7.7 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn yr ysgol ei hun, gyda 85% o’r gyllideb yn dod o Llywodraeth Cymru, a’r 15% sy’n weddill gan Esgobaeth Gatholig Wrecsam.
Yn ychwanegol i’r ddarpariaeth ysgol, sicrhawyd £700,000 o Llywodraeth Cymru er mwyn cynnwys uned blynyddoedd cynnar ar safle’r ysgol newydd.
Dwyeddod Gwern ap Rhisiart, pennaeth addysg Cyngor Gwynedd: "Bydd yr Ysgol Ein Harglwyddes ar ei newydd wedd yn darparu cyfleusterau modern i blant Bangor a'r cyffiniau, acyn yn caniatáu iddynt gyrraedd eu llawn botensial."
"Rwyf yn edrych ymlaen i weld y plant yn mwynhau eu hysgol newydd, fydd yn cynnwys chwe ystafell ddosbarth gyda mynediad i ofod allanol, neuadd, cegin ac ystafell amlbwrpas."
"Bydd gan yr ardal allanol arwynebedd caled ar gyfer chwarae, ardal gemau aml-ddefnydd a chae chwarae gwair. Er mor gartrefol a hanesyddol yw’r hen adeilad, rwy’n hyderus bydd y disgyblion, eu teuluoedd a’r staff dysgu wrth ei bodd gyda’r ysgol newydd."
Ychwanegodd y Gwir Barchedig Peter M. Brignall, Esgob Gatholig Wrecsam: "Mae hyn wedi bod ar y gweill ers blynyddoedd lawer, a bydd gan Ysgol Ein Harglwyddes yr adeilad newydd yr ydym wedi dyheu amdano."
“Mae partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Esgobaeth Wrecsam a Chyngor Gwynedd yn rhoi bywyd newydd i hen safle Ysgol Glanadda ac yn rhyddhau Ysgol Ein Harglwyddes o gyfyngiadau ei hadeilad oes Fictoria, sydd â mynediad gwael a chyfleusterau cyfyngedig."
“Rwy'n edrych ymlaen at y diwrnod y bydd yr ysgol newydd yn agor ei drysau ac yn darparu amgylchedd dysgu a chyfleoedd addysgol yr 21ain Ganrif, a hynny dan do a thu allan.”
Mae'r cyngor wedi penodi cwmni Reed Construction fel contractwyr ar gyfer y prosiect. Y gobaith yw bydd y gwaith ar yr ysgol newydd wedi ei gwblhau ar gyfer agor tymor yr haf 2026.
Dwyeddod Alex Read, cyfarwyddwr Read: "Mae cynaladwyedd yn greiddiol i’r adnodd 21ain Ganrif hon, ac mae wedi ei dylunio yn unol â gofynion sero net Llywodraeth Cymru."
"Drwy gydol y gwaith adeiladu, byddwn yn cydweithio â’r ysgol a’r gymuned er mwyn sicrhau bydd y cynllun yn dod a buddion ychwanegol i’r ardal leol."