Bangor: gwaith yn dechrau ar dai fforddiadwy

Wednesday, 4 December 2024 16:29

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Gwynedd

Mae gwaith wedi dechrau ar ddatblygiad tai fforddiadwy ym Mangor.

Bydd deg eiddo yn cael eu hadeiladu ar hen safle Ysgol Babanod Coed Mawr.

Mae'r prosiect yn rhan o Tŷ Gwynedd - cynllun adeiladu tai gan y cyngor sir Cyngor Gwynedd i fynd i'r afael â phrinder tai yn lleol.

Mae datblygiad tebyg hefyd wedi dechrau yn Llanberis - gyda chynlluniau i greu tua 1,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn 2027, fel rhan o gynllun gweithredu tai y cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, aelod cabinet dros dai ac eiddo: "Mae'r prosiect yma'n rhan hollbwysig o fy ngweledigaeth...i sicrhau ein bod yn darparu'r hawl dynol sylfaenol o gartrefi fforddiadwy ac addas i drigolion Gwynedd."

"Dw i'n falch iawn o weld y gwaith ar y tai yma'n dechrau er mwyn darparu tai i bobl leol." 

"Mae'r angen am dai fforddiadwy yn tyfu'n gyflym ar draws y wlad, a bydd y galw yma ond yn dwysáu wrth i'r argyfwng costau byw effeithio ar fwy o bobl."

Bydd deg tŷ yn cael eu codi ar y safle hwn, sef chwe thŷ gyda thri llofft a phedwar tŷ gyda dwy lofft.

Bwriad y tai yw diwallu anghenion pobl leol, yn enwedig rheini sy'n ei chael hi'n anodd prynu neu rentu cartref ond sydd efallai ddim yn gymwys am dŷ cymdeithasol.

Disgwylir y bydd y gwaith adeiladu yn cwblhau o gwmpas gwanwyn 2026.

Ychwanegodd y Cynghorydd ab Iago: "Dw i'n annog unrhyw un sydd efo diddordeb yn yr hyn sydd gan y cynllun yma i'w gynnig ymweld â safle we Tai Teg er mwyn gweld a ydynt yn gymwys i gofrestru gyda Tai Teg am dŷ fforddiadwy."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'