Mae technoleg newydd wedi ei datblygu ym Mhrifysgol Bangor i helpu siaradwyr Cymraeg sydd mewn perygl o golli eu llais.
Mae Lleisiwr yn galluogi pobl i ‘fancio’ eu llais ac yna’n creu llais synthetig personol ar eu cyfer.
Mae wedi'i anelu at bobl sydd mewn perygl o golli eu llais am resymau meddygol, gan gynnwys canser y gwddf neu glefyd niwronau motor.
Yn ôl Mrs Roberts, un o ddefnyddwyr y system, “Mae Lleisiwr wedi bod yn gaffaeliad i mi gan ei fod yn golygu bod modd i mi barhau i gyfathrebu gan ddefnyddio llais synthetig sy’n swnio fel fi.”
Mae'r Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor sy’n gyfrifol am ddatblygu Lleisiwr gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd arweinydd technolegau iaith, Gruffudd Prys: "Mae mor bwysig i'r lleisiau hyn fod yn ddwyieithog oherwydd ein bod yn tueddu i newid yn ôl ac ymlaen rhwng ein hieithoedd drwy’r dydd."
"Rwy'n credu'n gryf na ddylech orfod newid eich meddalwedd bob tro y byddwch am newid eich iaith."
"Rydym am i safon recordiadau llais fod gystal ag y bo modd, ac felly rydym yn awyddus iawn i gleifion gysylltu â ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn ddatblygu'r gwasanaeth. Os byddai aelod o'r teulu neu ffrind i chi yn elwa o hyn, rhowch wybod iddynt."
Mae’r ddyfais wedi cael ei chroesawu gan y cyn Brif Weinidog, Mark Drakeford, sydd bellach yn Ysgrifennydd yr iaith Gymraeg.
Dyweddod Mr Drakeford: “Does dim dwywaith bod colli’ch llais yn ergyd anferthol i bobl, ac mae datblygiadau technolegol yn gallu eu helpu i gyfathrebu unwaith eto yn ystod y cyfnod bregus hwn."
“Cyn hyn, doedd dim modd bancio eich llais yn Gymraeg. Rwy’n hynod o falch o gefnogi prosiect sy’n galluogi pobl i barhau i gyfathrebu â’u ffrindiau a’u teuluoedd yn eu hiaith eu hun.”
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae technoleg yn elfen allweddol o strategaeth Cymraeg 2050, sy'n anelu at gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif.
Fel rhan o’r gwaith, caiff grantiau eu dyrannu tuag at brosiectau arloesol gyda'r nod o gynyddu defnydd pobl o'r iaith o ddydd i ddydd ac i hybu technoleg sy'n cefnogi defnydd o’r Gymraeg.