Atgoffa trigolion i hawlio eu credyd pensiwn

Tuesday, 12 November 2024 17:26

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Gwynedd

Mae trigolion hŷn Gwynedd yn cael eu hannog i hawlio eu credyd pensiwn erbyn diwedd y flwyddyn.

Yn ôl y cyngor sir, mae sawl aelwyd yn gymwys am y budd-dal, ond yn colli allan.

Mae'r awdurdod lleol yn annog pobl i hawlio eu credyd pensiwn er mwyn cyrraedd y trothwy i hawlio talia tanwydd y gaeaf ar gyfer eleni.

Maen nhw'n annog pobl hŷn - a'u perthnasau - i wirio os ydynt yn gymwys a gwneud cais cyn y terfyn amser fis nesaf.

Gallai hawlio credyd pensiwn godi incwm unigolyn i £218.15 yr wythnos i berson unigol neu £332.95 yr wythnos i gwpwl. Mae cael mynediad i'r credyd hefyd yn gallu agor y drws i fuddion eraill, megis cymorth gyda chostau tai, treth cyngor, lwfans gwresogi a thrwydded deledu.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, arweinydd dros dro Cyngor Gwynedd: "Mae sicrhau bod pobl leol yn cael mynediad i'r cymorth ariannol sydd ar gael iddynt yn flaenoriaeth i'r cyngor."

"Dyna pam rydym yn cynnal sesiynau gwybodaeth ar hyd a lled y sir, yn ogystal â gweithio gyda'n partneriaid o'r trydydd sector i gefnogi hybiau cymunedol Gwynedd."

"Byddwn yn annog unrhyw un sydd ddim yn siŵr os ydynt yn gymwys, nac yn sicr sut mae mynd o gwmpas cyflwyno cais, i gysylltu gyda'r Cyngor neu efo'u hwb cymunedol am gymorth."

"Mae llawer o sôn wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar fod colli'r taliad ynni gaeaf yn ergyd drom i rai pobl. Felly gall hawlio credyd pensiwn wneud byd o wahaniaeth i fywydau pobl hŷn, gan ei fod ar gyfartaledd werth £3,900 y flwyddyn."

"Mae credyd pensiwn ar gael i helpu gyda chostau byw os ydych dros oedran pensiwn y wladwriaeth ac ar incwm isel."

"Rydw i'n bryderus fod llawer o bobl hŷn yn credu nad ydynt yn gymwys gan fod ganddynt gynilon neu berchen eu cartref eu hunain, ond nid yw hyn yn wir. Mae'n bwysig cofio fod hawlio'r credyd hefyd yn gallu agor y drws i fudd daliadau a chymorth arall."

Mae'r cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i godi ymwybyddiaeth i sicrhau bod trigolion y sir yn derbyn yr hyn sy'n ddyledus iddynt, ac i wneud y mwyaf o'r cymorth sydd ar gael yn wyneb yr heriau economaidd a chymdeithasol cyfredol. 

Mae'r rhai sydd ddim yn sicr os ydynt yn gymwys – neu ddim yn siŵr sut i wneud cais – yn cael eu hannog i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael gan Gyngor Gwynedd: 

  • Bydd nifer o gartrefi yn derbyn llythyr gan Cyngor Gwynedd. Cadwch lygaid allan am y llythyr a dilyn y camau sy'n cael eu nodi.
  • Mae gwybodaeth ynghylch cymorth costau byw ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd. Ewch i Cymorth Costau Byw (llyw.cymru)
  • Holwch yn eich Hwb Cymunedol lleol. Mae manylion am leoliad yr hybiau ac oriau agor ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd: Cefnogaeth bellach a hybiau cymunedol (llyw.cymru)
  • Mae swyddogion Cyngor Gwynedd yn mynychu digwyddiadau cymunedol rheolaidd ac yn cynnal sesiynau wyneb-yn-wyneb sy'n gyfle i siarad efo pobl o bob oedran a chefndir am ba gymorth sydd ar gael.
  • Gall staff Llyfrgelloedd Gwynedd a Siopau Gwynedd (Caernarfon, Pwllheli a Dolgellau) gyfeirio pobl at gymorth a helpu rheini sydd heb fynediad i'r we i ddefnyddio cyfrifiaduron yn rhad ac am ddim.

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais ymwelwch â gwefan Llywodraeth y DU cyn dydd Sadwrn 21 Rhagfyr.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Saturday Breakfast with Paul Hughes

    8:00am - 11:00am

    Join Paul as he kick-starts the weekend across Anglesey and Gwynedd! He's got great songs and local information to start your morning.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'