Mae arolwg newydd yn casglu barn ar sut i wella canol trefi ym Môn.
Gofynnir i berchnogion busnes ac trigolion lleol am eu hadborth fel rhan o gynllun strategaeth pum mlynedd gan Gyngor Ynys Môn.
Mae arolwg ar wahân hefyd wedi'i lansio ar gyfer rhanddeiliaid yn ardaloedd Caergybi, Llangefni, Amlwch, Porthaethwy a Biwmares.
Bydd ymatebion yn helpu i adnabod y blaenoriaethau ar gyfer buddsoddiadau cyhoeddus mewn canol trefi a’r stryd fawr drwy gynlluniau cyllid allanol.
Byddant hefyd yn helpu i greu "gwaelodlin" ar gyfer canol trefi a chynlluniau "creu lleoedd" ar gyfer trefi unigol yn y dyfodol.
Dyweddod Gary Pritchard, arweinydd y cyngor: "Mae ein tîm adfywio yn edrych i greu gwaelodlin ar gyfer pob canol tref. Bydd hyn yn darparu’r sylfaen angenrheidiol er mwyn gallu creu cynlluniau creu lle yn y dyfodol."
"Bydd adborth o’n hymgynghoriadau yn darparu gwybodaeth bwysig ac yn ein galluogi ni i ddeall yr hyn mae gwahanol grwpiau yn ei weld yn werthfawr am eu trefi, pa bryderon sydd ganddynt a sut y gallwn fynd ati i sicrhau newidiadau cadarnhaol."
"Mae hyrwyddo cyfleoedd i ddatblygu economi’r Ynys yn un o’n hamcanion allweddol fel cyngor. Dros amser, gobeithiwn y bydd yr agwedd creu lleoedd yn gwneud cyfraniad sylweddol i fywiogrwydd ein canol trefi a pha mor ddeniadol ydynt."
Mae'r arolwg, sy'n rhedeg tan ddydd Iau 21 Tachwedd, yn ffurfio rhan o ‘Lle Da’ Môn, rhaglen creu lleoedd ar draws Ynys Môn, sy’n cael ei ariannu gan gronfa Llywodraeth y DU ac sydd hefyd yn ffurfio rhan o ddarparu rhaglen Trawsnewid Trefi gan Llywodraeth Cymru ar yr ynys.
Ewch i wefan Cyngor Môn i gwblhau'r arolwg, neu am gopi caled, ymweld â llyfrgelloedd canol y dref neu Ganolfan Busnes Môn neu bencadlys y cyngor yn Llangefni.