
Mae rhaglen wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru, a weinyddir gan Gyngor Ynys Môn wedi buddsoddi bron £1m mewn i fusnesau lleol.
Mae rhaglen ARFOR wedi helpu i greu swyddi, datblygu'r economi a chryfhau'r Gymraeg ar yr Ynys.
Mae wedi gwneud hyn drwy dreialu datrysiadau newydd ac arloesol ar gyfer heriau sy'n bodoli yn ardal ARFOR (sy'n ymestyn dros Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin).
Mae'r Gronfa Cymunedau Mentrus (rhan o raglen ARFOR) yn cael ei gweinyddu gan y Cyngor Sir.
Gwahoddwyd unigolion a busnesau lleol i gyflwyno ceisiadau ar gyfer cyllid o haf 2023 ymlaen, yn dilyn proses o fynegi diddordeb.
Mae'r gronfa bellach wedi'i dyrannu'n llawn ac nid yw'n derbyn ceisiadau newydd. Isod, gellir gweld trosolwg o gynnydd y rhaglen hyd yma:
- Wedi dyrannu bron £1 miliwn o arian grant
- 48 busnes yn derbyn cefnogaeth
- Wedi creu 25 cynnyrch a/neu wasanaeth newydd
- Mae 9 busnes wedi cyflawni'r 'Cynnig Cymraeg' - hyrwyddo'r defnydd o'r iaith Gymraeg o fewn eu busnesau
- Wedi creu 42 o swyddi
Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Gary Pritchard: "Mae llwyddiant rhaglen ARFOR yn amlwg yma ar Ynys Môn. Mae wedi bod yn allweddol o ran gwella economi'r ynys ac mae wedi creu cyfleoedd arbennig sydd wedi galluogi busnesau hen a newydd, bach a chanolig, i ddatblygu."
"Un o chwe amcan strategol y cyngor sir yw hyrwyddo a datblygu'r economi. Mae'n amlwg fod y rhaglen hon wedi cefnogi'r amcan yma yn ogystal â chreu cyfleoedd gwaith newydd i bobl leol."
Un o amcanion allweddol ARFOR yw cefnogi cymunedau mewn ardaloedd Cymreig i ffynnu drwy ymyraethau economaidd, a gwella cyfleoedd i weld a defnyddio'r Gymraeg bob dydd.
Roedd y Cynghorydd Dafydd Roberts, deilydd portffolio addysg a'r iaith Gymraeg, yn croesawu'r effaith gadarnhaol mae rhaglen ARFOR wedi'i chael ar yr iaith Gymraeg ar yr Ynys.
Dywedodd Cynghorydd Roberts: "Rwy'n croesawu cynnydd rhaglen ARFOR, mae'n galonogol gweld cymaint o gwmnïau lleol ar Ynys Môn yn elwa o'r gronfa, ac yn datblygu eu cynnig o ran yr iaith Gymraeg o ganlyniad i hynny."
"Mae wedi bod yn braf gweld cymaint o fusnesau lleol yn tynnu sylw at yr iaith Gymraeg o fewn eu sefydliadau. Rydym hefyd wedi gweld gwasanaethau newydd yn cael eu cyflwyno mewn ardaloedd lleol, a mwy o weithdai a chyflwyniadau i ysgolion a chymunedau lleol."
Yn ddiweddar, mae nifer o fusnesau lleol wedi elwa o gyllid ARFOR, a gwelwyd datblygiad sylweddol o fewn eu busnesau a sefydliadau.
Dywedodd Iddon Jones, prif weithredwr Stiwdio Aria: "Mae'r gefnogaeth gan Gyngor Môn a Llywodraeth Cymru wedi newid ein byd. Yn ogystal â'n galluogi i ddenu cynyrchiadau mawr i'r ardal, mae hefyd yn ein galluogi i wahodd grwpiau lleol i ymweld â'r safle, dangos beth ydyn ni'n ei wneud fel sector a'u hannog nhw i ystyried gyrfa yn y maes."
Ychwanegodd Ifan Rowlands, rheolwr gyfarwyddwr Cadarn Consulting, "Mae'r cyllid wedi bod yn hollbwysig. Erbyn hyn, rydym yn cynnig gwasanaeth unigryw i'n cleientiaid ac yn parhau i gyflogi a hyfforddi peirianwyr dwyieithog lleol."
Dwyeddod Ysgrifennydd dros yr Economi, Rebecca Evans: "Mae ARFOR yn parhau i fod o fudd i bobl a busnesau ar draws ein cadarnleoedd Cymraeg, gydag amrywiaeth o brosiectau a ddarperir gan awdurdodau lleol yn cefnogi cymunedau bywiog ac economïau rhanbarthol ffyniannus tra'n sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu."
Am mwy o wybodaeth am raglen ARFOR, yn cynnwys ei nodau ac amcanion, ewch i www.rhaglenarfor.cymru