
Mae saith o bobl wedi cael eu harestio fel rhan o ymgyrch i amharu ar ddelio cyffuriau ym Môn.
Mae swyddogion gan Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio gyda Heddlu Glannau Mersi dros y naw mis diwethaf i atal ac amharu ar droseddau difrifol a chyfundrefnol yn yr ardal.
Dros dri diwrnod o weithredu, cafodd saith o bobl eu harestio ar amheuaeth o gyflawni troseddau gan gynnwys bod â chyffuriau dosbarth A yn eu meddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi, bod â chyffuriau dosbarth B yn eu meddiant, a throseddau yn ymwneud â lladrata ac ymosod.
Atafaelwyd arian parod, cocên a ketamine tybiedig a chafodd sawl archwiliad stopio a chwilio eu cynnal, gydag un person wedi'i arestio ar amheuaeth o yfed a gyrru a gyrru o dan ddylanwad cyffuriau.
Ers hynny, mae'r rhai a gafodd eu harestio wedi cael eu rhyddhau dan ymchwiliad tra bod ymholiadau'n parhau.
Dywedodd Rhingyll Cynorthwyol Chris Burrow o Heddlu Gogledd Cymru: "Dros y naw mis diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio ar y cyd â Heddlu Glannau Mersi er mwyn cael gwared â chyffuriau ar yr ynys, a'r rhai sy'n eu defnyddio i dargedu a rheoli aelodau bregus o'r gymuned."
"Mae sawl diwrnod fel hwn wedi arwain at atafaelu cyffuriau dosbarth A a fyddai fel arall wedi cael eu gwerthu ar strydoedd Ynys Môn."
"Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gydag asiantaethau partner i gyfeirio'r rhai a ganfuwyd â chyffuriau yn eu meddiant at Checkpoint i roi cymorth iddynt i roi gorau i ddefnyddio cyffuriau."
Ychwnaegodd yr Arolygydd Stephen Morris o Heddlu Glannau Mersi: "Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gweithio ochr yn ochr â Heddlu Gogledd Cymru i darfu ar linellau cyffuriau a diogelu pobl fregus."
"Yn ystod yr ymgyrchoedd hyn, mae swyddogion wedi gwneud arestiadau sylweddol ac wedi cipio arfau, cyffuriau ac arian anghyfreithlon, gan adnabod unigolion bregus sy'n cael eu hecsbloetio gan gangiau llinellau cyffuriau."
"Mae'r ymgyrch ddiweddaraf hon yn dangos y canlyniadau y gellir eu cyflawni wrth gydweithio i dargedu'r rhai sy'n ymwneud â'r math hwn o droseddu."
"Mae Prosiect Medusa, wedi ymrwymo i weithio ochr yn ochr â phartneriaid a heddluoedd eraill i gau'r llinellau cyffuriau hyn a diogelu ein cymunedau."