Arestio pedwar ar ôl ymosodiad ym Mlaenau Ffestiniog

Monday, 28 October 2024 16:32

By MônFM Newsroom

Mae pedwar o bobl wedi cael eu harestio mewn ymgyrch heddlu arfog ym Mlaenau Ffestiniog.

Mae’n dilyn ymosodiad ar ddyn yn ardal Heol Cromwell o’r dref tua 7yb bore Mercher 16 Hydref.

 

Yn dilyn ymchwiliadau, chwiliodd ditcetifs y cyfeiriad ddydd Sadwrn gan atafaelu arfau a nifer o'r hyn a amheuir o fod yn gyffuriau dosbarth A.

Cafodd tri o bobl eu harestio ar amheuaeth o glwyfo, affräe, meddu arfau ymosodol a bod hefo cyffuriau dosbarth A yn eu meddiant.

Cafodd pedwerydd unigolyn eu harestio ar amheuaeth o fod hefo arfau ymosodol mewn annedd breifat a bod hefo cyffuriau dosbarth B yn eu meddiant.

Ers hynny maen nhw wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth hefo amodau tra bod ymholiadau'r heddlu'n parhau.

Mae'r swyddogion wedi cynnal patrolau yn yr ardal yn dilyn y 'digwyddiad ynysig'.

Dywedodd yr arolygydd ardal, Iwan Jones, o Heddlu Gogledd Cymru: "Hoffwn i ddiolch i drigolion am eu help a'u dealltwriaeth wrth i'r heddlu ddelio hefo'r digwyddiad hwn ym Mlaenau Ffestiniog dros y penwythnos."

"Dwi'n deall y gall presenoldeb swyddogion drylliau tanio achosi pryder yn y gymuned, ond fe hoffwn i sicrhau ei fod yn ddigwyddiad ynysig heb unrhyw fygythiad i'r gymuned ehangach."

"Bydd swyddogion lleol yn parhau patrolio'r ardal leol er mwyn tawelu meddwl."

"Dylai unrhyw un sydd hefo gwybodaeth am y digwyddiad ar 16 Hydref sydd heb siarad hefo swyddogion eisoes gysylltu hefo'r heddlu."

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am yr ymosodiad, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddefnyddio rhif cyfeirnod 24000882932.

Fel arall, cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'