Arestio dyn wedi aflonyddwch yng Nghaernarfon

Wednesday, 16 October 2024 16:52

By Ystaffell Newyddion MônFM

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o affräe yn dilyn aflonyddwch ar stad yng Nghaernarfon.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad trefn gyhoeddus yn ardal Maes Hyfryd tua 2.30yp prynhawn dydd Mawrth.

Mae’r sawl sydd dan amheuaeth yn parhau yn nalfa’r heddlu. Cafodd ei arestio hefyd ar amheuaeth o fod ag erthygl llafnog yn ei feddiant.

Mae ditectifs yn apelio ar unrhyw dystion i ddod ymlaen.

Dywedodd y swyddog ymchwilio, PC Fflur Hughes: "Mi hoffwn i siarad efo unrhyw un oedd yn cerdded neu’n gyrru, a welodd y digwyddiad o bosib, i ddod atom ni."

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am yr aflonyddwch, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddefnyddio’r rhif cyfeirnod 24000880779.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM Breakfast with Ray Owen

    7:00am - 10:00am

    Good Morning! Ray Owen is here to start your day with great music on MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'