Arestio 19 mewn gweithredu cyffuriau yng Ngwynedd

Thursday, 21 November 2024 13:54

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae 19 o bobl wedi cael eu harestio yn dilyn ymgyrch yn erbyn troseddau cyffuriau yng Ngwynedd.

Gwelodd Ymgyrch Hessite swyddogion o Ogledd Cymru a Glannau Mersi yn gweithredu gwarantau dros dri diwrnod.

Daeth yr ymgyrch ar ôl derbyn cudd-wybodaeth am gyflenwi a dosbarthu cyffuriau ar draws y sir.

Gweithredodd swyddogion bedair gwarant o dan y ddeddf camddefnyddio cyffuriau yn ardaloedd Bangor, Caernarfon a Llanberis.

Gwnaethant stopio a chwilio 20 o bobl a arweiniodd at arestio 19 o bobl ar amheuaeth o droseddau gan gynnwys dwyn, meddu ar arfau a chyffuriau.

Cafodd pum arf a swm mawr o gyffuriau ac arian parod a amheuir eu hatafaelu hefyd yn ystod y gwarantau.

Yn dilyn yr ymgrych rhwng 12 a 14 Tachwedd, mae un dyn wedi cael ei alw'n ôl i'r carchar. Cafodd un dyn ei gyhuddo o fod hefo arf ymosodol ac un dyn wedi'i gyhuddo o fod hefo cyffuriau dosbarth A yn ei feddiant.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Dros Dro Andrew Davies: "Mae ymlid y rhai sy'n dod â chyffuriau i'n cymunedau ni'n parhau i fod yn flaenoriaeth."

"Mae cyflenwi cyffuriau'n arwain at weithgarwch troseddol, yn enwedig troseddau difrifol a threisgar, sy'n achosi gofid ac yn codi ofn ar drigolion."

"Byddwn ni'n parhau gweithredu ar wybodaeth a ddarperir i ni er mwyn aflonyddu ar y cyflenwad o gyffuriau i'r ardal. Mae'r wybodaeth hon yn chwarae rhan hanfodol wrth adnabod unigolion a'u rhoi ger bron y llysoedd."

 

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'