Apêl yn dilyn ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghaernarfon

Tuesday, 10 September 2024 19:53

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae'r heddlu wedi adnabod 14 o bobl ifanc sydd wedi bod yn taflu pethau gan ddifrodi cerbydau.

Mewn un digwyddiad diweddar, cafodd babi mewn coets wthio ei daro gan eitem.

Yn ôl swyddogion gymdogaeth, bydd camau pellach yn cael eu cymryd os bydd yr digwyddiadau yn parhau i waethygu yn yr ardal.

Dywedodd PC Jordan Jones o'r Tîm Plismona Cymdogaethau: "Mae'r ymddygiad diweddar yng Nghaernarfon yn cael effaith ddifrifol ar drigolion ac yn rhoi'r pobl mewn peryg."

“Yn ffodus, ni wnaeth y babi gael ei anafu ond mi allai'r stori fod wedi bod yn wahanol iawn."

"Hyd yn hyn mae 14 o bobl ifanc rhwng 9-15 oed wedi cael eu hadnabod fel rhai sydd wedi bod yn cymryd rhan yn y digwyddiadau a bydd swyddogion yn ymweld â'u cartrefi i siarad â'u teuluoedd a rhannu gwybodaeth gydag asiantaethau partneriaid."

"Erlyn pobl ifanc yw'r dewis olaf ond os yw'r digwyddiadau yn parhau i waethygu, bydd yn rhaid gweithredu yn ffurfiol."

"Hoffwn annog rhieni a gofalwyr i'n cefnogi ni drwy siarad â'u plant ynglŷn â ble maent yn mynd gyda'r nos a chanlyniadau ymddygiad gwrthgymdeithasol ar fywydau pobl o'u cwmpas."

"Hoffwn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu dystiolaeth ar gamera o ymddygiad gwrthgymdeithasol ar yr A4085 wrth ymyl Segontium yn benodol, i gysylltu â ni."

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Caernarfon, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r wefan neu'n anhysbys drwy Crimestoppers ar 0800 555 111.

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'