Angen mwy o ofalwyr maeth ym Môn

Monday, 11 November 2024 15:23

By Ystafell Newyddion MônFM

Maethu Cymru Môn

Mae ymgyrch wedi ei lansio i recriwtio mwy o ofalwyr maeth ym Môn.

Mae ymchwil newydd wedi amlygu'r arbenigedd a'r gefnogaeth a ddarperir gan weithwyr cymdeithasol ar yr ynys, mewn ymgais i annog mwy o bobl i faethu.

Yn ôl Maethu Cymru, mae angen am fwy o ofalwyr maeth yn un sy'n gynyddol enbyd gyda dros 7,000 o bobl ifanc mewn gofal ledled Cymru.

Ar hyn o bryd mae 96 o blant Ynys Môn mewn gofal maeth ac mae bron 60 o deuluoedd maeth yn Ynys Môn, ond mae angen 5 arall y flwyddyn.

Ym mis Ionawr, lansiodd y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu awdurdodau lleol, Maethu Cymru, ymgyrch i recriwtio 800 o deuluoedd maeth ychwanegol erbyn 2026.

Ymunodd Maethu Cymru Môn â'r ymgyrch, 'gall pawb gynnig rhywbeth' i rannu profiadau realistig y gymuned faethu ac ymateb i rwystrau cyffredin sy'n atal pobl rhag gwneud ymholiad.

Mae rhai o'r rhain yn cynnwys diffyg hyder, camsyniadau ynghylch meini prawf, a chred nad yw maethu'n cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw.

Mae cam diweddaraf yr ymgyrch yn canolbwyntio ar rôl gweithwyr cymdeithasol gofal maeth a'r 'swigen gymorth' sy'n bodoli o amgylch gofalwyr maeth, er mwyn darparu'r gwybodaeth, hyder ac cymheilliant i ofalwyr posib.

Mewn arolwg cyhoeddus diweddar gan YouGov, dywedodd dim ond 44% o'r ymatebwyr fod gwaith cymdeithasol yn cael ei barchu ac roedd bron i ddwy ran o bump (39%) o'r oedolion a holwyd yn teimlo bod ymarferwyr gwaith cymdeithasol "yn cael pethau'n anghywir yn aml." 

Yn ogystal, dim ond 11% o weithwyr cymdeithasol sy'n credu fod gwaith cymdeithasol yn cael ei barchu ar hyn o bryd.

Mae Ilaria yn weithiwr cymdeithasol goruchwylio gyda Chyngor Sir Ynys Môn ac mae wedi gweithio ym maes maethu awdurdod lleol ers nifer o flynyddoedd.

Myfyriodd ar ei rôl, a sut mae Maethu Cymru Môn yn cefnogi gofalwyr maeth lleol: "Mae'r rôl Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol yn golygu meithrin perthynas gyda phawb yn y cartref maeth a phawb sy'n rhan o fywyd y plentyn neu berson ifanc. Mae'r ymddiriedaeth a ddaw o'r perthnasoedd hyn yn allweddol i bopeth."

"Mae gennym dîm da o weithwyr sy'n cefnogi'n teuluoedd maeth yn ogystal. Mae pawb yn byw'n agos ac yn rhan o'r un gymuned. Dwi'n meddwl y dylai gofalwyr maeth gael eu hystyried yn weithwyr proffesiynol ac mi fydda i bob amser yn eu trin felly gan ein bod ni'n rhan o'r un tîm. Dyna beth ydi maethu efo awdurdod lleol yn y bôn."

"Pan fyddwch chi'n maethu gyda'ch awdurdod lleol, bydd gennych chi dîm i'ch cefnogi a'ch annog, bob cam o'r ffordd."


Ychwanegodd, "I mi, y peth sy'n rhoi'r boddhad mwyaf ydi pan fydd y plant a'u teuluoedd yn dod ataf i flynyddoedd yn ddiweddarach ac yn sôn am faint o wahaniaeth rydym wedi'i wneud i'w bywydau, does dim byd tebyg."

Mae'r ymgyrch ddiweddaraf 'gall pawb gynnig rhywbeth', yn cael ei harwain gan arolwg sydd newydd ei gomisiynu er mwyn deall rhagdybiaethau a chymhellion gweithwyr cymdeithasol yn well.

Cafwyd 309 o ymatebwyr ac mae'r canfyddiadau allweddol yn cynnwys:

  • 78% o weithwyr cymdeithasol yn yr arolwg yn dweud eu bod wedi ymuno â'r proffesiwn i gefnogi a helpu teuluoedd.
  • 18% o ofalwyr maeth yn dweud fod canfyddiadau negyddol o weithwyr cymdeithasol yn bodoli oherwydd sylw yn y Newyddion.
  • 29% o ofalwyr maeth yn dweud, cyn cyfarfod â gweithiwr cymdeithasol eu bod yn meddwl y byddent yn 'bobl â llwyth achosion trwm a llawer o waith papur.'
  • 27% o weithwyr cymdeithasol a holwyd yn credu bod darpar ofalwyr yn ofni cael eu barnu gan weithwyr proffesiynol.

Yn yr ymchwil, tynnodd gofalwyr maeth sylw at bwysigrwydd perthnasoedd gwaith agos a hirhoedlog er mwyn cefnogi pobl ifanc i oresgyn heriau.

Roeddent hefyd yn awyddus i chwalu mythau am weithwyr cymdeithasol a'r cymorth a dderbynnir, a thalwyd teyrnged i ymroddiad eu gweithwyr cymdeithasol.

Mae Ian wedi bod yn maethu gyda Chyngor Sir Ynys Môn ers dros 25 mlynedd, gan ddarparu gofal maeth tymor hir i blant ar Ynys Môn, dywedodd: "Mae gen i weithiwr cymdeithasol gwych y gallaf ymddiried ynddi'n llwyr, sy'n bwysig yn enwedig fel gofalwr maeth sengl. Mae hi'n gwrando arna'i ac rydym yn gallu bod yn agored ac yn onest gyda'n gilydd."

"Mae ychydig o hwyl i'w gael hefyd, ac mae angen hynny weithiau i'ch cefnogi trwy'r rhannau heriol o faethu. Mae pethau bach fel yna yn mynd yn bell ac yn eich atgoffa bod rhywun pob amser yno i chi."

Eglurodd deilydd portffolio gwasanaethau plant, pobl ifanc a theuluoedd Cyngor Môn, y Cynghorydd Dyfed Wyn Jones: "Fel gofalwr maeth awdurdod lleol, bydd ein tîm maethu yn darparu popeth sydd ei angen arnoch i wneud gwahaniaeth ym mywydau plant Ynys Môn."

"O gefnogaeth ac arbenigedd, i hyfforddiant ac arweiniad, mae cymuned Ynys Môn Maethu Cymru yma i chi."

"Os gallwch chi gynnig cynhesrwydd, empathi a chartref diogel, cariadus, fe allech chi newid bywyd person ifanc. Bydd ein staff lleol profiadol yn eich cefnogi ar bob cam o'ch taith faethu. Cysylltwch heddiw i holi am ddod yn ofalwr maeth awdurdod lleol."

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad, ewch i wefan Maethu Cymru Môn.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'