Mae chwilio ar y gweill yn yr Afon Menai yn dilyn adroddiad bod unigolyn wedi mynd i’r dŵr.
Mae'r gwasanaethau brys yn cribo'r ardal o amgylch Pont Menai yn dilyn yr adroddiad toc cyn 9.45yb ddydd Gwener.
Mae'r gwasanaeth tan, Gwylwyr y Glannau a Chanolfan Cydlynu Achub Awyrennol y DU (ARCC) yn helpu yr heddlu efo'r chwilio yn yr ardal.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "‘Da ni’n apelio ar unrhyw un oedd yn teithio ar hyd Bont y Borth rhwng 9.20 a 9.45am bore heddiw, sydd wedi gweld rhywun yn cerdded yn yr ardal, neu os oes gennych chi ffilm camera cerbyd, i gysylltu efo ni gan ddefnyddio’r cyfeirnod Q142472."
Y rhif ffôn yw 101 gyda sgwrs we fyw ar gael hefyd ar wefan Heddlu Gogledd Cymru.